Sir Ddinbych yn Gweithio: Hyfforddiant a digwyddiadau

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig cyfleoedd hyfforddi rhad ac am ddim i rymuso preswylwyr Sir Ddinbych gyda’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu yn yr yrfa o’u dewis. P'un a ydych chi’n dymuno datblygu sgiliau newydd, ehangu ar yr hyn rydych chi’n ei wybod eisoes, neu archwilio llwybr gyrfa newydd, mae ein rhaglenni hyfforddi wedi’u teilwra i’ch helpu chi i lwyddo.

Gwasanaethau a gwybodaeth

Clybiau Swyddi

Cael help personol gydag unrhyw beth sy'n eich dal yn ôl o'r gwaith.

Barod Walkie Talkie

Ymunwch â ni am dro a siarad lle gallwch fwynhau'r awyr agored, cysylltu ag eraill, a meithrin cyfeillgarwch newydd, i gyd wrth wella eich lles.

Paned a Sgwrs

Ymunwch â ni am Baned a Sgwrs mewn sesiwn gyfeillgar a rhyngweithiol lle gallwch chi ymarfer eich Cymraeg mewn amgylchedd braf heb unrhyw bwysau.

Sesiwn galw heibio Barod ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed

Mae ein sesiwn galw heibio i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn un hamddenol a chyfeillgar, lle gallwch ddod i gwrdd â hyfforddwr lles a chysylltu â phobl eraill sydd o bosibl yn teimlo’r un fath.

Ffair Swyddi

Os ydych chi'n chwilio am swydd neu'n chwilfrydig am yr hyn sydd ar gael, ein ffair swyddi yw'r lle perffaith i ddechrau

Ynglŷn â’n hyfforddiant a’n digwyddiadau

Mae ein cyrsiau hyfforddi yn cwmpasu lefelau sgiliau a sectorau amrywiol, o weithdai i ddechreuwyr i ddatblygiad proffesiynol uwch. Darperir bob cwrs gan hyfforddwyr profiadol sy’n deall heriau’r gweithle modern. Yn ogystal, mae llawer o’n rhaglenni yn rhai hyblyg, a chaiff dewisiadau ar-lein ac yn bersonol eu cynnig, i gyd-fynd â’ch amserlen.

Trwy ymuno â rhaglen hyfforddi Sir Ddinbych yn Gweithio, byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol, yn magu hyder ac yn cael mynediad at gyfleoedd newydd. P’un a ydych chi’n chwilio am waith llawn amser, newid gyrfa, neu’n dymuno gwella’ch datblygiad personol, rydym yn cynnig hyfforddiant i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd.

Cymerwch y cam nesaf ar eich siwrnai gyda Sir Ddinbych yn Gweithio a gwireddwch eich potensial heddiw.


Cysylltu â ni

  • Cysylltu â ni ar-lein - Cysylltwch â ni ar-lein a gofynnwch am alwad yn ôl os hoffech i ni eich ffonio chi.
  • Ffoniwch ni - 01745 331438 / 07342 070635.

working-denbighshire-funded-by-uk-government-logo working-denbighshire-welsh-government-logo Logo Cymunedau am Waith a Mwy Working Denbighshire logo