Mae Cynllun Prydlesu Cymru (LSW) yn gynllun prydlesu wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan awdurdodau lleol.
Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i chi brydlesu eich eiddo i ni er mwyn cael incwm rhent misol wedi’i warantu, a hynny’n ddidrafferth.
Buddion Cynllun Prydlesu Cymru
Bydd perchnogion eiddo sy’n ymuno â’r cynllun yn elwa o:
- incwm rhent wedi’i warantu, a hynny’n ddidrafferth am gyfnod y brydles (ar gyfradd berthnasol y Lwfans Tai Lleol) – sy’n golygu dim ôl-ddyledion rhent a dim eiddo gwag
- grant o hyd at £25,000 i sicrhau bod yr eiddo’n bodloni safonau rhentu
- grant o hyd at £5,000 i gynyddu sgôr ynni eich eiddo
- prydlesi rhwng 5-20 mlynedd
- archwiliadau eiddo, gwaith trwsio a chynnal a chadw (yn amodol ar draul a gwisgo rhesymol)
- rheoli’r eiddo a’r tenant yn gyflawn am gyfnod y brydles
Cymhwysedd
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Cynllun Prydlesu Cymru yn Sir Ddinbych, mae’n rhaid i’ch eiddo:
- fod yn Sir Ddinbych
- bod yn wag/heb ei feddiannu
- bodloni safonau eiddo penodol
Safonau eiddo
Bydd angen i eiddo fodloni safonau penodol er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Mae’n bosibl y bydd grantiau o hyd at £5,000 ar gael i sicrhau bod eiddo’n bodloni safon benodol ac i gynyddu sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) yr eiddo i ‘C’.
Gellid ymestyn y cyllid hwn hyd at uchafswm o £25,000 ar gyfer eiddo gwag.
Gallwch gysylltu â ni i ddysgu mwy am safonau eiddo Cynllun Prydlesu Cymru a’r grantiau sydd ar gael.
Sut i wneud cais
Cysylltwch â ni i gael gwybodaeth am wneud cais ar gyfer Cynllun Prydlesu Cymru.
Mwy o wybodaeth
Gallwch gysylltu â ni i gael mwy o wybodaeth am Gynllun Prydlesu Cymru.