Rwyf wedi derbyn Rhybudd i adael oddi wrth fy Landlord
Bydd y math o rybudd yn dibynnu ar y math o gytundeb sydd gennych. Os yw'ch landlord eisiau ichi adael, rhaid iddo roi rhybudd i chi mewn ffordd benodol. Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch eich hawliau, cysylltwch â'r Tîm Atal Digartrefedd ar Rhadffon 0300 456 1000 neu Shelter Cymru (gwefan allanol) ar 01745 361444 i gael gwybodaeth a chyngor am ddim.
Mae fy Landlord yn byw gyda mi a dywedwyd wrthyf am adael
Mae gan bobl sy'n rhannu llety â'u landlord hawliau gwahanol i'r rhai sy'n rhentu eiddo ar wahân. Mae hyn yn golygu eich bod yn debygol o fod yn feddiannydd gwaharddedig os ydych yn unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn:
- rydych chi'n rhannu llety gyda'ch landlord
- rydych chi'n byw yn yr un adeilad â'ch landlord ac yn rhannu llety gydag aelod o deulu'ch landlord
- rydych chi'n byw yn eich llety am wyliau
- nid ydych yn talu unrhyw rent am eich llety
Os ydych chi'n feddiannydd gwaharddedig, ychydig iawn o hawliau tenantiaeth fydd gennych chi. Mae'n bwysig cofio pa mor hawdd yw hi i'ch landlord eich troi allan. Oherwydd hynny, gallai fod yn anodd ichi wneud atgyweiriadau neu godiadau gwrthiannol. Fel meddiannydd gwaharddedig eich unig hawl yw aros nes bod eich landlord yn gofyn ichi fynd, neu cyhyd ag y dywed eich cytundeb ysgrifenedig. Gall eich landlord eich troi allan trwy roi rhybudd rhesymol i chi ac nid oes angen gorchymyn llys arno. Byddai'r mwyafrif o awdurdodau yn gofyn i'ch landlord roi rhwng 14 a 28 diwrnod fel rhybudd rhesymol.
Mae fy Landlord / Asiant wedi dweud wrthyf trwy neges destun / ar lafar eu bod yn mynd i roi rhybudd i mi adael
Os yw'ch landlord / asiant wedi dweud wrthych yn bersonol neu drwy neges destun eu bod yn mynd i roi rhybudd i chi i adael, mae hyn yn golygu nad ydych chi'n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd ar hyn o bryd. Nid yw rhybudd llafar neu anfon neges destun gan landlord / asiant yn hysbysiad dilys.
Rwyf wedi derbyn Rhybudd Adran 21 Angen Meddiant
Mae mwyafrif y tenantiaethau rhent preifat yn Denantiaeth Byr-ddaliad Sicr sy'n golygu y gallwch feddiannu'r eiddo am o leiaf 6 mis ac ni allwch gael eich troi allan yn gyfreithlon heb Orchymyn Llys. Ni all llys wneud gorchymyn meddiant oni bai eich bod wedi cael Rhybudd Adran 21 dilys. Ni ellir ôl-ddyddio'r rhybudd a rhaid iddo fod o leiaf ddau fis.
O ble i gael help?
Fe'ch cynghorir yn gryf i gysylltu â'r Tîm Atal Digartrefedd ar 0300 456 1000 yn ddi-oed er mwyn ceisio eich atal rhag dod yn ddigartref. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y gallant ddirymu eich rhybudd gyda rhywfaint o drafod (e.e. os oes ôl-ddyledion, gallent drefnu i wneud cynllun talu, neu drefnu i weithiwr cymorth gynorthwyo gydag unrhyw broblemau ariannol sydd wedi arwain at gyhoeddi’r rhybudd). Gallai ymyrraeth gynnar hefyd olygu na fyddai costau llys yn cael eu trosglwyddo i chi gan eich landlord.