Fyfyrwyr amser llawn
Os yw pob preswylydd mewn aelwyd yn cael eu heithrio am eu bod yn fyfyrwyr, byddant yn gymwys ar gyfer eithriad llawn i dreth y cyngor.
Os yw myfyrwyr ac unigolion nad ydynt yn fyfyrwyr yn byw mewn eiddo, gallant fod yn gymwys o hyd ar gyfer gostyngiadau i dreth y cyngor. Bydd hyn yn dibynnu ar y nifer o unigolion nad ydynt yn fyfyrwyr sy’n byw yn yr aelwyd.
Os oes un unigolyn nad ydynt yn fyfyriwr ac nad ydynt yn disgyn i unrhyw gategori eithriad arall, gall disgownt o 25% fod yn gymwys o hyd.
Os oes dau neu fwy o bobl nad ydynt yn fyfyrwyr ac nad ydynt yn disgyn i unrhyw gategori eithriad arall, ni ddyfernir unrhyw ddisgownt, a bydd angen talu treth y cyngor yn llawn. Yn yr achosion hyn, bydd yr aelodau nad ydynt yn fyfyrwyr yn gyfrifol am dalu treth y cyngor.
Bydd y myfyriwr yn atebol os mai nhw yw’r unig unigolyn sy’n gyfrifol am dalu treth y cyngor.
Beth rydym yn ystyried i fod yn fyfyriwr llawn amser:
Byddwch yn cael eich ystyried i fod yn fyfyriwr llawn amser er pwrpasau treth y cyngor os ydych yn:
- fyfyriwr sy’n ymgymryd â chwrs astudio mewn sefydliad addysgol yng Nghymru, Lloegr neu'n Aelod-wladwriaeth o’r Undeb Ewropeaidd, sy’n para am flwyddyn academaidd ac yn astudio am 24 wythnos o’r flwyddyn academaidd honno o leiaf, gan gynnwys 21 awr o astudio'r wythnos o leiaf yn ystod y tymor.
- Darpar nyrsys sy’n dilyn cwrs mewn coleg nyrsio a bydwreigiaeth neu goleg iechyd, ac os yn llwyddiannus bydd yn arwain at eich cynnwys ar y gofrestr a gedwir dan adran 10 Deddf Nyrsys, Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd 1979.
- Myfyrwyr sy’n dilyn cwrs cymwys, sydd dan 20 mlwydd oed a’u cwrs yn arwain at gymhwyster hyd at (ond nid yn uwch na) Lefel A safonol neu gyfwerth – sy’n para'n hirach na thri mis ac sy’n cynnwys mwy na 12 awr o astudio’r wythnos yn ogystal â gweithgareddau perthnasol y cwrs a gynhelir rhwng 8:00am a 5:30pm.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am yr disgownt neu eithriad hwn arlein.
Gwneud cais am ddiystyru neu eithrio myfyrwyr ar-lein