Pwy sy'n gyfrifol am y dreth gyngor?
Y person sy’n byw yn yr eiddo (cyn belled â’u bod dros 18 oed) sy’n atebol am y dreth cyngor fel arfer. Y person sy’n uchaf ar y rhestr isod ddylid eu henwi ar y bil treth cyngor:
- Rhydd-ddeiliad preswyl
- Lesddeiliad preswyl
- Tenant statudol preswyl neu ddiogel
- Trwyddedai preswyl
- Meddiannydd
- Perchennog dibreswyl
Gallwch roi gwybod i ni o newid yn yr eiddo drwy lenwi ein ffurflen ar-lein.
Roi gwybod am newid cyfeiriad ar-lein
Cyfrifon ar y cyd a sawl cyfrif
Os oes dau neu fwy o bobl â’r un buddiant mewn eiddo yna maen nhw’n gyfartal gyfrifol am y dreth cyngor. Ystyrir fod parau priod neu bobl sy’n byw efo’i gilydd fel cwpl yn gyd-atebol, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw’r un buddiant yn yr eiddo. Cyfrifoldeb dalwyr y cyfrif ydi sicrhau bod y symiau sy’n ddyledus yn cael eu talu; ni allwn ni fod yn ymglymedig ag anghydfod sifil fel talu hanner yr un. Os na thelir y swm sy’n ddyledus, gellir cymryd camau adfer yn erbyn pob daliwr cyfrif.
Sefyllfaoedd lle nad yw’r preswylydd yn atebol am y dreth cyngor
Mae perchennog yn aros yn atebol yn yr achosion canlynol:
- Mewn tai amlfeddiannaeth – e.e. pobl gyda thenantiaeth ar wahân sy’n rhannu cyfleusterau .
- Lle mae’r preswylwyr i gyd dan 18 oed – gellir dyfarnu esemptiad dosbarth S.
- Cartrefi gofal preswyl neu nyrsio, a rhai mathau o hostelau sy’n darparu gofal.
Cysylltwch â ni os ydych chi’n ansicr a ddylech chi fod yn atebol ai peidio.
Sgwrsio gydag ymgynghorydd
Sgwrsio gydag ymgynghorydd ar-lein. Dydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 5pm. Dydd Gwener: 9:00am tan 4.30pm.