Rhowch wybod i ni os bydd yna newid (treth y cyngor)
Os ydych chi wedi symud i mewn neu allan o Sir Ddinbych, gallwch lenwi ein ffurflen newid cyfeiriad ar-lein.
Rhoi gwybod i ni am newid cyfeiriad
Ar gyfer unrhyw newidiadau eraill, gan gynnwys newidiadau i ostyngiadau, gallwch gysylltu â ni.
Dylech gynnwys y cyfeiriadau llawn a’r union ddyddiadau fel y gallwn wneud y newidiadau angenrheidiol. Mewn rhai achosion efallai y byddwn angen gwybodaeth ychwanegol.
Os byddwch chi neu rywun wedi symud i/o eiddo, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni fel y gellir agor, cau neu newid eich cyfrif.
Prynu/Gwerthu eiddo
Fyddwn ni ddim yn newid dim nes bydd gwerthiant wedi ei gwblhau. Cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, y diwrnod y digwyddodd y gwerthiant neu wedyn.
Pan fydd rhywun yn marw
Rydyn ni’n deall fod hwn yn amser anodd ac ni fyddwn yn disgwyl cael ein diweddaru’n syth. Fodd bynnag, gorau po gyntaf y cawn wybod er mwyn i ni allu cymhwyso eithriad neu wneud y newidiadau sydd eu hangen.
Pwy all ddweud wrth y tîm treth gyngor am newid?
Byddwn yn awgrymu bod unrhyw un sy’n ymglymedig â newid yn cysylltu â ni i sicrhau bod unrhyw ddisgownt neu eithriadau’n cael eu dyfarnu’n briodol. Byddwn hefyd yn derbyn gwybodaeth gan werthwyr tai a chyfreithwyr.
Sgwrsio gydag ymgynghorydd
Sgwrsio gydag ymgynghorydd ar-lein. Dydd Llun i ddydd Iau: 9am tan 5pm. Dydd Gwener: 9:00am tan 4.30pm.