Goruchwylwyr Eiddo Dynodedig
Mae Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig yn gyfrifol am unrhyw werthiant o ran alcohol a wneir yn yr eiddo. Mae’n rhaid iddynt fod:
- y prif gyswllt ar gyfer yr heddlu, yr awdurdodau trwyddedu a’r gwasanaethau tân
- rhaid gallu cysylltu â nhw bob amser
- rhaid iddynt fod yn deall y problemau cymdeithasol a’r problemau posibl sy’n gysylltiedig â gwerthu alcohol
- dylent feddu ar drwydded bersonol i werthu alcohol
- rhaid iddynt fod wedi eu henwebu gan ddeiliad trwydded yr eiddo
- rhaid iddynt gydsynio i’r rôl
Mae’n drosedd i werthu alcohol heb i Oruchwyliwr Eiddo Dynodedig fod wedi ei nodi ar drwydded yr eiddo neu ar adeg pan nad yw’r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig yn dal trwydded bersonol gyfredol.
Sut i ddod yn Oruchwyliwr Eiddo Dynodedig
Crynodeb o’r drwydded
Mae’n rhaid i chi arddangos ‘crynodeb o’r drwydded’ ar yr eiddo lle gellir ei weld yn hawdd. Rhaid i’r grynodeb nodi enw’r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig.
Amrywio’r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig
Dim ond y daliwr trwydded eiddo sy’n gallu gwneud cais i newid y person sydd wedi ei enwebu fel Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig.
Gall deiliad y drwydded eiddo ymgeisio ar-lein ar wefan GOV.UK i amrywio trwydded eiddo a nodi rhywun arall fel Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig.
Ymgeisio i amrywio trwydded eiddo i nodi unigolyn fel Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig (gwefan allanol)
Ffurflen ganiatâd
Bydd yn rhaid i chi ddarparu ffurflen ganiatâd wedi ei llofnodi gan y person enwebedig neu ni fydd eich cais yn ddilys.
Gyflwyno’ch ffurflen ganiatâd ar-lein (gwefan allanol)
Y cyfnod gwneud sylwadau
Unwaith mae’ch cais wedi ei dderbyn gan yr awdurdod trwyddedu mae gan yr Heddlu 14 diwrnod i wrthwynebu newid y Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig. Os na cheir gwrthwynebiad bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo a byddwch yn derbyn y Drwydded Eiddo ddiwygiedig yn y post maes o law.
Os ceir gwrthwynebiad byddwn yn cysylltu â chi.
Fe allwch chi hefyd ofyn am i’ch cais ddod i rym ar unwaith, a fyddai’n caniatáu i unrhyw newidiadau arfaethedig ddod i rym yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Rhaid i ddeiliad y Drwydded Eiddo roi gwybod i’r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig sy’n ymadael am y cais fel eu bod yn ymwybodol nad oes ganddynt gyfrifoldeb mwyach.
Faint mae'n costio?
Mae’n costio £23 i newid y Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig.
Sut i dalu
Bydd yn rhaid i chi dalu wrth wneud cais ar-lein drwy’r wefan GOV.UK.
Diddymu Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig
Os nad ydych chi eisiau ymgymryd â rôl y Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig mwyach, ac nad yw’r cais i amrywio’r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig wedi ei wneud, gallwch ofyn i’ch enw gael ei dynnu oddi ar y drwydded.
Gallwch gyflwyno eich cais drwy gwblhau ffurflen gais ar-lein.
Cais i beidio â bod yn oruchwyliwr eiddo dynodedig mwyach (gwefan allanol)