Trwydded Triniaethau Arbennig i ymarferwyr 

Bydd arnoch angen Trwydded Triniaethau Arbennig os ydych chi’n dymuno gwneud un o’r triniaethau canlynol ar rywun arall yng Nghymru:

  • Aciwbigo (gan gynnwys anghenion sych)
  • Tyllu rhannau o’r corff
  • Electrolysis
  • Tatŵio (gan gynnwys colur rhannol barhaol / microlafnu)

Bydd y drwydded yn nodi pa driniaeth(au) arbennig fydd yr ymarferydd wedi’u trwyddedu i ymgymryd â hwy, yn ogystal â rhestru’r safleoedd y bydd yr ymarferwyr yn eu defnyddio.

Fe fydd pob ymarferydd angen ei Drwydded Triniaethau Arbennig ei hun, a dim ond mewn safle/cerbyd sydd wedi cael ei gymeradwyo â Thystysgrif Safle Cymeradwy y gallant weithredu.

Dysgu mwy am Dystysgrifau Safle Cymeradwy.

It will be an offence for a practitioner to undertake any special treatment without a licence or undertake any treatment of an unapproved premises or vehicle.

It will also be an offence not to comply with the specific requirements set out in the regulations for practitioners and premises/vehicles.

Cymhwysedd

I fod yn gymwys am Drwydded Triniaethau Arbennig, mae’n rhaid i chi:

  • fod yn 18 oed neu’n hŷn
  • darparu tystiolaeth fod gennych Ddyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig 

Cyrsiau Dyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig

Dyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Gweithdrefnau Arbennig Mae cyrsiau ymarferwyr wyneb yn wyneb ar gael o:

Mae cyrsiau ar-lein ar gael gan:

Cyfnod y drwydded

Bydd y Trwyddedau Triniaethau Arbennig yn para 3 blynedd o ddyddiad cyhoeddi’r drwydded. 

Bydd y trwyddedau dros dro’n ddilys am 7 diwrnod. 

Ymarferwyr sy’n gweithio mewn mwy nag un Awdurdod Lleol

Fe fydd angen i chi ymgeisio i’r Awdurdod Lleol yn yr ardal yr ydych chi’n gwneud eich triniaethau arbennig. Os ydych chi’n gweithredu mewn mwy nag un ardal awdurdod lleol yng Nghymru, dylech wneud cais i’r awdurdod lleol lle rydych yn ymgymryd â’r mwyafrif o’ch triniaethau arbennig.

Bydd y drwydded triniaethau arbennig yn gymwys ar gyfer Cymru gyfan, cyn belled bod gan y safle dystysgrif gymeradwyaeth a’i fod wedi’i restru/grybwyll ar drwydded triniaethau arbennig yr ymarferydd.

Bydd trwyddedau triniaethau arbennig dros dro wedi’u cyfyngu ar gyfer digwyddiad a/neu amserlen benodol.  Golyga hyn bod rhaid gwneud cais newydd ar gyfer pob digwyddiad unigol (oni bai bod gan yr ymarferydd drwydded 3 blynedd). 

Ymarferwyr sy’n byw y tu allan i Gymru

Fe fydd ymarferwyr sy’n byw y tu allan i Gymru, ond sy’n gweithio yng Nghymru, naill ai angen trwydded triniaethau arbennig dros dro (os yw’n anaml a ddim mwy na 7 diwrnod) neu drwydded triniaethau arbennig 3 blynedd. 

Sut i wneud cais

Bydd angen i chi wneud cais ar-lein am Drwydded Triniaethau Arbennig a darparu’r dogfennau ategol

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd gennych yr opsiwn i greu cyfrif cwsmer. Rydym yn argymell creu cyfrif rhag ofn y byddwch am arbed eich cais a dod yn ôl ato yn nes ymlaen.

Gwneud cais ar-lein am Drwydded Triniaethau Arbennig

Cyfnod pontio ar gyfer ymarferwyr sydd eisoes wedi cofrestru

Fe fydd yna gyfnod pontio pan ddaw’r cynllun newydd i rym, er mwyn i ymarferwyr a gofrestrodd drwy’r broses gofrestru flaenorol ymgeisio am Drwydded Safle Cymeradwy, ac os oes angen, Trwydded Triniaethau Arbennig.

Yn ystod y cyfnod pontio, fe fydd ymarferwyr sydd eisoes wedi cofrestru:

  • yn cael tystysgrif trwydded/cymeradwyo pontio am dri mis yn awtomatig er mwyn iddynt barhau i redeg busnes triniaethau arbennig (yn unol â’u dogfen gofrestru bresennol)
  • gwneud cais am Drwydded Triniaeth Arbennig (ac os oes angen Tystysgrif Cymeradwyo Eiddo) cyn dydd Gwener 28 Chwefror 2025 gan y bydd y trefniadau trosiannol yn dod i ben ddydd Sadwrn 1 Mawrth 2025

Os nad ydych chi wedi cael trwydded, a lle bo angen, tystysgrif gymeradwyaeth safle/cerbyd erbyn diwedd y cyfnod pontio o 3 mis, ni fydd modd i chi wneud triniaethau arbennig yn gyfreithlon.

Ni fydd unrhyw eithriad i’r gofynion i gael trwydded/tystysgrif ac ni ellir ymestyn y cyfnod pontio hwn.

Ymarferwyr newydd

Ni fydd ymarferwyr newydd na gofrestrodd drwy’r broses gofrestru flaenorol/bresennol yn gymwys am y cyfnod pontio tri mis.

Ni chaniateir i ymgeiswyr newydd fasnachu/gweithredu nes byddant wedi cael trwydded (a, lle bo hynny’n briodol, nes bydd eu safle/cerbyd wedi cael ei gymeradwyo) dan y cynllun newydd. 

Dogfennau Ategol

Rhaid i geisiadau gynnwys y canlynol:

  • Ffi’r cais (i’w thalu fel rhan o’r ffurflen gais ar-lein).
  • Llun lliw math pasbort o’ch wyneb cyfan.
  • Tystiolaeth o dystysgrif datgeliad sylfaenol diweddar (y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).
  • Datganiad o droseddau perthnasol (fel yr amlinellir yn y Ddeddf).  
  • Tystiolaeth o fod wedi cwblhau Gwobr Lefel 2 yn llwyddiannus (atal a rheoli haint).
  • Cadarnhad o enw a dyddiad geni (e.e. pasbort, trwydded yrru ac ati). 
  • Cadarnhad o’ch cyfeiriad preswyl presennol (e.e. trwydded yrru, llythyr treth y Cyngor, bil cyfleustodau ac ati).

Gwefannau cysylltiedig ar gyfer cefnogi dogfennaeth

Gwneud cais am wiriad DBS sylfaenol (gwefan allanol)

Ffioedd

The following fees are proposed for each licence, temporary licence or for other variations.

Ni ystyrir bod cais wedi cael ei gyflwyno nes bydd ffi’r cais wedi cael ei derbyn a’i chlirio.

Ffioedd Trwydded Triniaethau Arbennig
Trwydded neu weithgaredd Ffi
Trwydded Triniaethau Arbennig Newydd (3 blynedd) £159
Ffi cydymffurfio ar gyfer trwydded Triniaethau Arbennig newydd (yn daladwy ar ôl rhoi’r drwydded) £44
Adnewyddu Trwydded Triniaethau Arbennig (3 blynedd) £148
Ffi cydymffurfio ar gyfer adnewyddu trwydded Triniaethau Arbennig (yn daladwy ar ôl caniatáu adnewyddu’r drwydded) £41
Trwydded Triniaethau Arbennig Dros Dro (hyd at 7 diwrnod) £92
Amrywio Trwydded Triniaethau Arbennig (ychwanegu triniaeth newydd) £131
Amrywio Trwydded Triniaethau Arbennig (newid manylion) £26
Disodli Trwydded Triniaethau Arbennig £13

Prosesu ac Amserlenni

Caiff ceisiadau newydd eu prosesu o fewn yr amserlenni a nodwyd gan ganllawiau statudol/anstatudol Llywodraeth Cymru. 

Caiff ymarferwyr sydd eisoes wedi cofrestru, sy’n ymgeisio am Drwydded Triniaethau Arbennig o fewn y cyfnod pontio o 3 mis, eu prosesu o fewn 3 mis o ddiwedd y cyfnod pontio, neu’n gynt (h.y. 6 mis o’r dyddiad y daw’r rheoliadau i rym).  

Deddfwriaeth ac amodau

The draft Regulations containing specific requirements and conditions for practitioners are available Rheoliadau Trwyddedau Triniaeth Arbennig (Cymru) 2024.

Darllen Rheoliadau Trwyddedau Triniaeth Arbennig (Cymru) 2024 (gwefan allanol)

Y rheoliad trosfwaol sy’n amlinellu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer Gweithdrefnau Arbennig a gofynion cyfreithiol eraill yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Rhan 4).

Darllen Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Rhan 4) (gwefan allanol)

Amodau cymeradwyo gorfodol

Amodau trwyddedu gorfodol: amodau cyffredinol (gwefan allanol)