Trwydded maes carafannau a gwersylla
Os byddwch yn gadael i’ch tir gael ei ddefnyddio fel maes gwersylla gan y cyhoedd am fwy na 42 diwrnod yn olynol neu am 60 diwrnod mewn blwyddyn, bydd angen trwydded arnoch.
Mae rhai eithriadau i hyn:
- Carafán sengl sydd ar y safle am nid mwy na dwy noson yn olynol am uchafswm o 28 diwrnod mewn unrhyw 12 mis.
- Hyd at dair carafán ar safle pum acer neu fwy, am uchafswm o 28 diwrnod mewn unrhyw 12 mis. Safleoedd y mae sefydliadau eithriedig fel y Clwb Carafannau yn eu defnyddio.
- Safleoedd ar gyfer hyd at 5 carafán sydd wedi’u hardystio gan sefydliad eithriedig ac sydd ar gyfer aelodau’n unig.
- Safleoedd ar gyfer dibenion dros dro a dibenion arbennig megis ralïau carafannau, gweithwyr amaethyddol a choedwigaeth, safleoedd adeiladu a pheirianneg a gwerthwyr sy’n teithio. Gellir defnyddio safle ar gyfer pebyll yn unig am uchafswm o 28 diwrnod mewn unrhyw 12 mis.
Sut ydw i’n cofrestru?
Rhaid i chi fod a chaniatâd cynllunio ar gyfer y tir a ddefnyddir ar gyfer lleoli’r carafannau cyn y gallwch geisio am drwydded. Rhagor o wybodaeth am ganiatâd cynllunio.
I wneud cais am drwydded carafannau a meysydd gwersylla, llenwch y ffurflen gais a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Ffurflen gais am trwydded maes carafannau a gwersylla (PDF, 68KB)
Rhaid i chi amgáu copi o’ch caniatâd cynllunio, a chynllun safle ar raddfa 1:500 sy’n dangos gosodiad y ffyrdd, y carafannau a’r cyfleusterau.
Faint mae’n ei gostio?
Nid oes cost am drwydded carafannau a meysydd gwersylla.