Trwyddedau parcio i ymwelwyr
Mae trwyddedau parcio i ymwelwyr ar gyfer pobl sy’n ymweld â thrigolion Sir Ddinbych.
Sut ydw i’n defnyddio’r drwydded barcio hon?
Mae trwyddedau parcio i ymwelwyr yn caniatáu i ymwelwyr barcio mewn rhai ardaloedd yn Sir Ddinbych. Mae’r drwydded barcio yn ddilys am un diwrnod cyfan, felly os ydych chi’n ymweld am fwy nag un diwrnod, bydd angen i chi gael trwydded ar gyfer pob diwrnod o’ch ymweliad. Mae’n rhaid i chi ysgrifennu’r dyddiad a rhif cofrestru eich car ar bob trwydded barcio rydych chi’n ei defnyddio.
Gellir defnyddio trwyddedau parcio i ymwelwyr yn yr ardaloedd hyn:
Dinbych
- Highgate
- Love Lane
-
Stryd y Dyffryn
Llangollen
- Stryd y Bont
- Stryd y Capel
- Stryd yr Eglwys
- Stryd y Neuadd
Rhuthun
- Ffordd y Parc
- Stryd y Farchnad
- Stryd Llanrhydd
- Stryd Mount
- Wernfechan
Y Rhyl
- Ffordd Brighton
- Ffordd Cilgant
- Ffordd Morley
- Oxford Grove
- Parc Morlan
- Rhodfa'r Brenin
- Stryd y Baddon
- Stryd Bedford
- Stryd Cinmel
- Stryd Clwyd
- Stryd Elwy
- Stryd Gorllewin Cinmel
- Stryd Paradwys
- Stryd Thorpe
- Stryd y Tywysogion
- Stryd Vezey
- Stryd Windsor
- Y Promenâd
Sut ydw i’n gwneud cais am drwydded barcio?
Dim ond trigolion Sir Ddinbych sy'n gallu gwneud cais am drwyddedu parcio i ymwelwyr. Ni all ymwelwyr ymgeisio eu hunain.
Os ydych chi'n byw yn un o'r ardaloedd a restrir yma, gallwch chi wneud cais am lyfr o drwyddedau parcio i ymwelwyr mewn unrhyw Siop Un Alwad. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch cyfeiriad (e.e. bil cyfleustodau, trwydded yrru), a bydd angen i chi dalu am y trwyddedau pan rydych yn ymgeisio. Maent yn costio £6 am lyfr sy’n cynnwys 10 trwydded.
Byddwch yn derbyn y trwyddedau drwy'r post dim mwy na 10 diwrnod gwaith ar ôl i chi wneud cais.