Grant Hanfodion Ysgol

Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol yn Sir Ddinbych a’ch bod yn cael budd-dal cymwys, mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael grant tuag at gost:

  • Gwisg ysgol
  • Dillad chwaraeon ysgol
  • Chwaraeon y tu allan i’r ysgol
  • Gwisg ar gyfer gweithgareddau ehangach e.e. sgowtiaid a geidiau
  • Cyfarpar ar gyfer gweithgareddau i gefnogi’r cwricwlwm e.e. dylunio a thechnoleg
  • Cyfarpar ar gyfer tripiau tu allan i oriau ysgol, gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored
  • Dug Caeredin
  • Cyfrifiaduron, gliniaduron a dyfeisiau llechen 

Beth sydd ar gael?

Gall rhieni sy’n cael budd-dal cymwys gael grant o £125 os yw eu plant yn y dosbarth derbyn neu ym mlwyddyn 1 i 11 (ar wahân i flwyddyn 7). 

Blwyddyn 7

Os yw eich plentyn ym mlwyddyn 7 a’ch bod yn cael budd-dal cymwys, mae’n bosibl bod gennych hawl i grant o £200.

Plentyn sy'n derbyn gofal

Gellir hefyd darparu grant i blentyn sy'n derbyn gofal yn unrhyw flwyddyn ysgol os nad ydi’r rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr yn cael budd-dal cymhwyso.

Budd-daliadau cymwys

Fe allwch chi hawlio’r Grant Hanfodion Ysgol os ydych chi’n derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol: 

  • Cymhorthdal Incwm,
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Pensiwn; Credyd Gwarantedig
  • Treth Credyd Plant gydag incwm blynyddol llai na £16,190
  • Cymorth o dan Adran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
  • Credyd Cynhwysol a ni ddylai’ch enillion net blynyddol fod dros £7,400.

Ni ellir derbyn y Grant Hanfodion Ysgol os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith.

Sut i wneud cais am Grant Hanfodion Ysgol

Blwyddyn ysgol 2023/2024

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer blwyddyn ysgol 2023/2024 oedd 31 Mai 2024, heblaw am geisiadau i Blant sy'n Derbyn Gofal.  Gellir dal i wneud ceisiadau am Grantiau Ysgol Hanfodol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal hyd at 30 Mehefin 2024.

Blwyddyn ysgol 2024/2025

Gellir gwneud cais am grant ar gyfer blwyddyn ysgol 2024/2025 o 1 Gorffennaf 2024.

Caiff ceisiadau ar gyfer blwyddyn ysgol 2023/2024 a gyflwynir cyn 1 Gorffennaf 2024 eu diystyru heb hysbysiad.

Plant sy'n Derbyn Gofal

Gwneud cais ar-lein am Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal

Gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol eraill

Mwy o wybodaeth

Mae gan rai ysgolion gael polisi i ddarparu cymorth tuag at gostau gwisg ysgol ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 8 ac uwch, cysylltwch ag ysgol eich plentyn i gael gwybod os gallant helpu.