Hunan-wasanaeth Addysg

Bydd arnoch chi angen cyfrif Hunan-wasanaeth Addysg i wneud cais am le 2025 mewn ysgol yn Sir Ddinbych.

Trosglwyddo rhwng ysgolion

Nid oes angen cyfrif Hunan-wasanaeth Addysg arnoch os hoffech wneud cais i’ch plentyn drosglwyddo o un ysgol i ysgol arall.

Canfod mwy am drosglwyddo o un ysgol i ysgol arall

Sut i greu neu fewngofnodi i gyfrif

Gallwch greu cyfrif Hunanwasanaeth Addysg cyn i’r cyfnod ymgeisio ddechrau.

Creu neu fewngofnodi i’ch cyfrif Hunanwasanaeth Addysg

Dilysu’r cyfrif

Wrth gofrestru ar gyfer cyfrif Hunanwasanaeth Addysg, caiff e-bost ei anfon atoch er mwyn dilysu eich cyfrif. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost hwn. Ni fyddwch wedi cwblhau’r broses gofrestru nes i chi ddilysu'ch cyfrif

Efallai y bydd angen i chi chwilio am yr e-bost dilysu yn ffolder sbam neu sothach eich system e-bost

Cyfrineiriau

Wrth greu cyfrinair ar gyfer eich cyfrif, dim ond y nodau canlynol y gallwch eu defnyddio:

  • rhifau
  • priflythrennau / llythrennau bach
  • y nodau arbennig canlynol @ ; : # ~ * & ^ % $ ! ) (  

Os ydych chi'n defnyddio generadur cyfrinair, gwiriwch eich fod yn defnyddio'r cymeriadau a ganiateir yn unig.

Wedi colli neu anghofio cyfrinair

Os byddwch yn colli neu’n anghofio eich cyfrinair, cliciwch y ddolen ‘rydw i wedi anghofio fy nghyfrinair’ ar y dudalen fewngofnodi.

Rhoi gwybod am broblem

Gallwch roi gwybod am broblem am yr Hunanwasanaeth Addysg ar-lein.

Rhoi gwybod am broblem gyda’r Hunanwasanaeth Addysg

Pryd i greu cyfrif ac ymgeisio

Gallwch greu cyfrif ar unrhyw bryd, ond bydd ceisiadau ond ar gael ar adegau penodol o’r flwyddyn.

Lleoedd ysgol uwchradd

O 2 Medi 2024 bydd modd gwneud cais am le blwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd yn 2025 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2013 a 31 Awst 2014.

Lleoedd derbyn

O 23 Medi 2024 bydd modd gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn yn 2025 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021.

Lleoedd Iau (blwyddyn 3)

O 23 Medi 2024 bydd modd gwneud cais am le mewn ysgol iau (blwyddyn 3) yn 202 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2017 a 31 Awst 2018.

Lleoedd Meithrin

O 23 Medi 2024 bydd modd gwneud cais am le mewn dosbarth meithrin yn 2025 i blant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022.