Beth ddylwn i ei wneud ag asbestos?
Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (gwefan allanol) cyn ceisio trin neu dynnu asbestos.
Gallwn dderbyn gwastraff asbestos o’r cartref e.e. blancedi tân, hen fyrddau smwddio, ac ati, ym Mharc Ailgylchu a Gwastraff Marsh Road, y Rhyl, ond ni fyddwn yn derbyn llawer ohono.
Gallwn dderbyn hyd at dri bag neu becyn o asbestos wedi’i fondio y mis gan aelwydydd Sir Ddinbych, ond mae’n rhaid iddo fod wedi’i lapio ddwywaith neu fod mewn dau fag polythen trwchus (HDPE).
Rydym yn awgrymu i chi siarad gydag un o’r staff wrth gyrraedd i gael gwybod ble mae’r sgipiau asbestos. Bydd gofyn i breswylwyr ddarparu eu henw a’u cyfeiriad wrth gael gwared â gwastraff asbestos.