Diweddariad casgliadau gwastraff ac ailgylchu – dydd Gwener, 10 Ionawr, 1.30pm
Yn anffodus, mae’r tywydd garw yn parhau i achosi problemau sylweddol i’n criwiau casglu gwastraff ac ailgylchu gydag amodau rhewyllyd ar ffyrdd a phalmentydd.
I sicrhau diogelwch ein criwiau, defnyddwyr eraill y ffordd fawr a’r cyhoedd, rydym wedi gorfod atal casgliadau yn yr ardaloedd canlynol:
- Glascoed, Allt yr Injan a Bodelwyddan
- Henllan
- Dinbych
- Nant y Patrick
- Trefnant
- Waen
- Gallt Melyd
- Aberchwiler
- Dyserth
- Llandyrnog
Os yw eich gwastraff na ellir ei ailgylchu wedi ei fethu, caiff ei gasglu ddydd Llun. Dylech roi ailgylchu allan ar eich diwrnod casglu arferol nesaf a byddwn yn casglu gwastraff ychwanegol sydd ar yr ochr cyn belled â’i fod wedi ei wahanu. Gallwch roi eich gwastraff bwyd yn eich bin gwastraff cyffredinol neu ei gludo i un o’n Parciau Gwastraff ac Ailgylchu (ac eithrio’r cyfleuster yng Nghorwen).
Rydym yn ymwybodol o’r ardaloedd sydd wedi eu methu felly does dim angen adrodd casgliadau a fethwyd.
Ymddiheurwn am yr anghyfleustra.
Casgliadau ailgylchu a gwastraff
Ar eich diwrnod casglu arferol, sicrhewch fod eich cynwysyddion yn y man casglu erbyn 6.30am. Gallwn gasglu eich gwastraff unrhyw amser ar y diwrnod hwn hyd at 5pm, felly gadewch eich cynwysyddion allan tan hynny.
Casgliadau gwastraff a fethwyd
Gofynnwn yn garedig i chi beidio â rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd tan ar ôl 5pm gan y bydd rhai criwiau yn parhau i gasglu gwastraff tan yr amser yma. Darganfod mwy am gasgliadau gwastraff a fethwyd.