Rhoi gwybod am gasgliad bin a fethwyd

Casgliadau ailgylchu a gwastraff

Amserlen ddyddiol: Casgliadau ailgylchu a gwastraff

Canfod lle fydd ein criwiau'n casglu cynnwys eich cynwysyddion.


Mae ein criwiau gwastraff yn parhau gyda chasgliadau wedi eu cynllunio.

Os fethwyd eich casgliad, dylech ei roi allan y diwrnod canlynol. Os na allwn ei gasglu, dylech roi’r cynwysyddion allan ar y dyddiad byddech yn derbyn eich casgliad arferol nesaf.

Fel yr wythnos diwethaf, os yw eich cynwysyddion bellach yn llawn, a bod gennych fwy o ailgylchu, parhewch i'w gwahanu mewn cynwysyddion addas (e.e. bagiau neu focsys) a'u cyflwyno ar eich diwrnod casglu nesaf. Bydd ein criwiau'n casglu hyn fel 'gwastraff ochr' am y tro.

Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra.

Fe ddylech osod eich biniau allan ar y palmant erbyn 7.00am.

Os na fyddwch chi'n gosod eich cynwysyddion allan yn barod i’w casglu cyn 7:00am neu yn rhoi eich cynwysyddion allan ar y diwrnod anghywir, bydd angen i chi naill ai:

  • aros tan eich diwrnod casglu nesaf sydd wedi’i drefnu  
  • cymryd eich deunydd ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu i’ch Parc Gwastraff ac Ailgylchu lleol

Yn yr achos hynny, os ydych chi’n credu bod ein criw wedi methu eich bin ar ddamwain, gallwch roi gwybod am gasgliad sydd wedi cael ei fethu ar-lein.

Rydym yn diweddaru ein ffurflenni ar-lein

Pan fyddwch yn rhoi gwybod ar-lein nad yw eich biniau wedi eu gwagio:

  • Os ydych am roi gwybod i ni am gasgliad Trolibocs a fethwyd dylech ddewis unrhyw un o'r blychau a chaiff y cynhwysydd cyfan ei gasglu.
  • os nad yw eich cynwysyddion wedi’u rhestru, rhowch wybod i ni yn yr adran 'Rhagor o fanylion' ar y ffurflen.

Diolch am eich amynedd.

Rhoi gwybod am gasgliad bin a fethwyd

Peidiwch â rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd tan ar ôl 3pm. Mae hyn er mwyn rhoi digon o amser i’r criwiau gwblhau eich ardal.