Parciau Ailgylchu a Gwastraff

Parciau Ailgylchu a Gwastraff Ar Gau ar 5 Chwefror 2025

Bydd ein holl barciau ailgylchu a gwastraff ar gau ddydd Mercher 5 Chwefror 2025 ar gyfer hyfforddiant staff. Byddant yn dychwelyd i’w horiau agor arferol ddydd Iau 6 Chwefror.

Mae gennym barciau Gwastraff ac Ailgylchu parhaol gall drigolion Sir Ddinbych a Sir Conwy eu defnyddio ar gyfer eu gwastraff domestig.

Mae gennym hefyd Wasanaeth Ailgylchu Dros Dro trigolion Dyffryn Dyfrdwy sy'n gweithredu ar foreau cyntaf a thrydydd dydd Sadwrn pob mis yng Nghorwen.

Bydd angen i chi drefnu apwyntiad cyn ymweld â Pharc Gwastraff ac Ailgylchu.

Darganfyddwch sut i archebu lle mewn Parc Gwastraff ac Ailgylchu

Parciau Ailgylchu a Gwastraff sydd ar gael i breswylwyr Sir Ddinbych a Chonwy

Byddwch angen darparu tystiolaeth (pan fyddwch yn cyrraedd) eich bod yn drigolyn Sir Ddinbych neu Gonwy (e.e. trwydded yrru neu fil cyfleustod) er mwyn defnyddio'r Parciau Ailgylchu hyn a rhaid i chi gael cyfeiriad domestig Sir Ddinbych neu Gonwy i archebu eich ymweliad.

Trwyddedau

Byddwch angen trwydded ar gyfer ein parciau gwastraff ac ailgylchu os ydych yn cludo gwastraff mewn trelar gyda mwy nac un echel neu’n defnyddio cerbyd math masnachol.

Dim ond gwastraff cartref sy’n cael ei ganiatáu yn y safleoedd.

Gwneud cais neu adnewyddu trwydded Ban ar Fan

Eitemau nad oes modd eu hailgylchu ger ymyl palmant

Mae nifer o eitemau nad oes modd eu hailgylchu'n wythnosol gyda'ch gwasanaeth casglu gwastraff ymyl palmant, ond mae modd eu hailgylchu yn lleol. Fe ddylai pob deunydd pacio gael label ailgylchu arno. Mae labeli pacio a symbolau ailgylchu bellach i’w gweld ar lawer o eitemau bob dydd, ac maent yn dweud wrthym sut i ailgylchu gwahanol fathau o ddeunydd pacio.

Mwy o wybodaeth am labeli ailgylchu (gwefan allanol)

Fel arfer mae gan eitemau ailgylchadwy eraill, nad oes modd eu hailgylchu ger ymyl palmant (e.e. bagiau plastig), bwyntiau casglu lleol. 

Lle i fynd ag eitemau eraill i'w hailgylchu (gwefan allanol)