Hen fatris y cartref.
(Batris AAA, AA, B, C, D, DD a 9V.)
Rhowch hen fatris y cartref mewn bag plastig untro, ei glymu’n ddiogel, a’i roi ar dop un o’ch bagiau y gellir eu hailddefnyddio.
Ni fyddwn yn casglu'r batris canlynol:
- Teclynnau gwefru batris *
- Batris ceir * (Gweler: Canllawiau Ailgylchu A i Y)
- Batris y gellir eu gwefru o liniaduron, ffonau symudol, tŵls trydan neu sugnwyr llwch *
- E-sigaréts neu binnau fêp **
- Batris ‘botwm’ lithiwm-ïon, fel y rhai a ddefnyddir mewn cyfrifianellau, dyfeisiau cymorth clyw neu watshis *
* Ewch â'r eitemau hyn i'ch Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol.
** Dylech gael gwared â'r rhain fel eitemau trydanol bach.