Asbestos yw’r enw a roddir ar grŵp o fwynau sy’n bodoli’n naturiol ac a ddefnyddir mewn cynnyrch megis deunyddiau adeiladu a breciau ceir, er mwyn gwrthsefyll gwres a chyrydiad.
Pam ei fod yn beryglus?
Gall asbestos achosi afiechyd difrifol: Mesothelioma, cancr ar yr ysgyfaint sy’n gysylltiedig ag asbestos, Asbestosis a thewhau plewrol. Nid yw’r afiechydon hyn yn eich effeithio’n syth ond gallant ddatblygu dros amser. Ar ôl cael diagnosis, mae hi’n aml yn rhy hwyr i wneud dim.
A yw'r cyngor yn cael gwared ag asbestos?
Na. Os oes angen cael gwared ag asbestos, argymhellwn eich bod yn cysylltu â chwmni arbenigol a/neu gontractwr trwyddedig i gynnal arolwg ac yna i symud a chael gwared â’r asbestos.
A allaf fynd ag asbestos i'r ganolfan ailgylchu?
Gallwn dderbyn gwastraff asbestos o’r cartref (e.e. blancedi tân, hen fyrddau smwddio ac ati) ym Marsh Road, Y Rhyl, ond ni dderbynnir sypiau mawr. Gallwn dderbyn hyd at dri bag neu becyn o haenau o asbestos wedi eu rhwymo gan breswylwyr Sir Ddinbych y mis; mae’n rhaid lapio’r eitemau ddwywaith neu eu bagio ddwywaith gyda pholythen cryf.
Cynigiwn eich bod yn siarad ag aelod o staff ar ôl cyrraedd a gofyn ble mae’r sgip asbestos wedi ei lleoli. Gofynnir i breswylwyr ddarparu eu henw a’u cyfeiriad wrth gael gwared â gwastraff asbestos.
Darganfod mwy am reoliadau iechyd a diogelwch yn y gweithle sy’n ymwneud ag asbestos