Casgliadau gwastraff gardd

Am ffi flynyddol, gallwn ddod i gasglu eich gwastraff gardd, gan gynnwys y canlynol:

  • toriadau gwair
  • thociadau gardd
  • canghennau a brigau
  • dail
  • rhisgl
  • blodau
  • rhisgl pren a siafins
  • planhigion

Ni fyddwn yn gwagio bagiau gwastraff gwyrdd neu finiau gwyrdd sy’n cynnwys; pridd, gwastraff cartref cyffredinol, cynnyrch bwyd neu unrhyw wair/ naddion pren, pren neu bapur wedi’u halogi gan anifeiliaid.

Yn sgil newidiadau i’n gwasanaethau casglu gwastraff a deunyddiau ailgylchu, mae casgliadau gwastraff gardd rhai cwsmeriaid wedi newid i ddiwrnod gwahanol.

Gweld y diwrnodau casglu ar gyfer tanysgrifwyr i’r gwasanaeth gwastraff gardd

Tanysgrifio, adnewyddu neu uwchraddio

Ar hyn o bryd nid yw cofrestru, adnewyddu ac uwchraddio casgliadau gwastraff gardd ar gael wrth i ni wneud newidiadau i’r broses danysgrifio.

Bydd unrhyw danysgrifiadau sydd ar fin dod i ben rhwng 8 Ionawr a 30 Mawrth 2025 yn cael eu hymestyn fel eu bod nhw rŵan yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025 sy’n golygu na fydd angen adnewyddu o gwbl.

Bydd yn bosib cofrestru, adnewyddu ac uwchraddio casgliadau gwastraff gardd eto ym mis Mawrth 2025 i danysgrifio ar gyfer y flwyddyn o 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026. 

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi drefnu hyn?

Yn cychwyn ar 1 Ebrill 2025, bydd pob tanysgrifiad gwastraff gardd yn para am 12 mis, tan 31 Mawrth 2026. Er mwyn cydweddu pob tanysgrifiad presennol, bydd pob adnewyddiad, uwchraddiad a thanysgrifiad newydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025. Bydd cost adnewyddu tanysgrifiad presennol yn cael ei gyfrifo ar raddfa symudol yn dibynnu ar hyd y cyfnod tanysgrifio. Mae’r costau newydd i’w gweld isod.

Fyddwn ni ddim yn defnyddio labeli na thagiau â chod bar ar gyfer y cynwysyddion mwyach. Yn lle hynny, bydd manylion pob tanysgrifiwr presennol yn cael eu rhannu’n electronig gyda’r cerbyd casglu.

Faint yw'r gost?

Mae cost ein gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn dibynnu ar nifer y cynwysyddion a ddefnyddiwch a sut yr ydych yn tanysgrifio - mae'n rhatach os ydych yn tanysgrifio ar-lein.

Costau tanysgrifio newydd

Costau tanysgrifio newydd

Costau tanysgrifio newydd ar gyfer gwastraff gardd
Cynhwysyddion Cost wrth danysgrifio ar-lein Cost ar gyfer tanysgrifio all-lein
Un bin olwyn gwyrdd 140 litr neu dri sach ddympi £45.00 £50.00
Dau fin olwyn gwyrdd 140 litr neu chwe sach ddympi £65.00 £75.00
Cadw eich bin olwyn gwyrdd 240L / 360 litr* £50.00 £55.00

*Mae'r opsiwn yma ar gael i gwsmeriaid a chanddynt eisoes fin olwyn 240/360 litr - ni fyddwn yn dosbarthu mwy o finiau olwyn 240/360 litr.

Costau ar gyfer uwchraddio tanysgrifiad gwastraff gardd ar-lein

Costau ar gyfer uwchraddio tanysgrifiad gwastraff gardd ar-lein

Costau ar gyfer uwchraddio tanysgrifiad gwastraff gardd ar-lein
Mis Ychwanegu bin neu 3 sach ychwanegol
Mehefin 2024 £15.00
Gorffennaf 2024 £13.33
Awst 2024 £11.67
Medi 2024 £10.00
Hydref 2024 £8.83
Tachwedd 2024 £6.67
Rhagfyr 2024 £5.00

Costau ar gyfer uwchraddio tanysgrifiad gwastraff gardd all-lein

Costau ar gyfer uwchraddio tanysgrifiad gwastraff gardd all-lein
Mis Ychwanegu bin neu 3 sach ychwanegol
Mehefin 2024 £18.75
Gorffennaf 2024 £16.67
Awst 2024 £14.58
Medi 2024 £12.50
Hydref 2024 £10.42
Tachwedd 2024 £8.33
Rhagfyr 2024 £6.25

Cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu newydd neu amnewid

Mae taliadau ar gyfer rhai cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu newydd neu amnewid.

Gan amlaf, bydd cynwysyddion gwastraff gardd newydd yn rhad ac am ddim, fodd bynnag rydym yn cadw’r hawl i godi ffi am gynhwysydd newydd os bydd angen. Pan fydd yna ffioedd i’w talu, mae’r prisiau i’w gweld isod.

Ffioedd am gynwysyddion gwastraff gardd
CynhwysyddFfi
Biniau gwyrdd ar olwynion (pob maint) newydd neu yn lle’r rhai presennol £25
Tair sach £15
Sach yn lle’r un bresennol £5 yr un

Atgyweirio bin olwynion neu Drolibocs sydd wedi'i ddifrodi

Os oes gennych fin olwynion neu Drolibocs wedi'i ddifrodi, efallai y gallwn ei drwsio. Dysgwch am atgyweiriadau i finiau gwastraff ac ailgylchu sydd wedi'u difrodi.

Sut i archebu cynhwysydd newydd

Gallwch archebu cynhwysydd newydd ar-lein.

Archebu cynhwysydd gwastraff neu ailgylchu newydd ar-lein

Cwsmeriaid sy’n derbyn y gwasanaeth bagiau

Yn anffodus, nid yw’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd ar gael i gwsmeriaid sy’n derbyn y gwasanaeth bagiau, ar gyfer casglu eu hailgylchu a’u gwastraff. Os ydych chi ar y gwasanaeth bagiau, peidiwch â chofrestru ar gyfer y casgliadau gwastraff gardd. Byddwn yn adolygu hyn ac yn rhoi gwybod i chi os bydd unrhyw newidiadau.