Beth ddylwn i ei wneud â bwyd?

Symbol gwastraff bwyd

Gallwch ailgylchu bwyd yn defnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff:

Gwasanaeth Trolibocs

Gwasanaeth bagiau

Gwasanaeth biniau cymunedol

Canllawiau

Ailgylchwch fwyd yn eich cadi cegin arian wedi’i leinio â bag compostadwy.

Rhowch y bag llawn gwastraff bwyd yn eich cadi oren.

Os oes gennych fwyd sych neu mewn tun sydd heb fynd dros ei ddyddiad, gallwch ei roi i fanc bwyd lleol (dolen allanol).

Mwy o wybodaeth

Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.

Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.

Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.