Beth ddylwn i ei wneud â chartonau?

Gallwch ailgylchu cartonau (e.e. rhai cawl, llaeth, sudd, ffa a chorbys, hylif meddalu ffabrig, ac ati) yn defnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff: 

Gwasanaeth Trolibocs

Gwasanaeth bagiau

Gwasanaeth biniau cymunedol

Canllawiau

Gofalwch fod unrhyw gartonau yn lân a’ch bod wedi rhoi dŵr drostynt cyn eu hailgylchu.

Mwy o wybodaeth

Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.

Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.

Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.