Beth ddylwn i ei wneud â chynnyrch gofal dannedd?

Gall cynnyrch gofal dannedd (yn cynnwys tiwbiau past dannedd gwag, hen frwshys dannedd a chynnyrch sydd â phecynnau o ddeunyddiau cymysg) gael eu hailgylchu gan TerraCycle.

TerraCycle (gwefan allanol)

O bryd i’w gilydd, bydd gwneuthurwyr cynnyrch sy’n anodd eu hailgylchu’n gweithio gyda chwmni o’r enw Terracycle i gynnig mannau gollwng lleol neu labeli postio ar gyfer eu cynnyrch.

Gallwch ddarganfod a yw eitem yn cael ei dderbyn a lleoliad eich man gollwng agosaf drwy ymweld â gwefan Terracycle (gwefan allanol). Mae’r lleoliadau hyn fel arfer yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr unigol ac yn amodol ar newid.