Beth ddylwn i ei wneud â dillad a thecstilau?

Symbol ailgylchu dillad

Symbol ailgylchu tecstilau

Gall ddillad a thecstilau gael eu hailddefnyddio a’u casglu gan ein partner, Menter Gymdeithasol Co-Options, trwy wasanaeth casgliadau tecstilau bob 4 wythnos.

Darganfyddwch fwy am wasanaeth casglu tecstilau Co-Options

Gallwch waredu dillad a thecstilau na ellir eu defnyddio mwyach gan ddefnyddio cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu fe allwch chi fynd i Barc Ailgylchu a Gwastraff:

Gwasanaeth Trolibocs

Gwasanaeth bagiau

Gwasanaeth biniau cymunedol

Canllawiau

Rhowch ddillad a thecstilau nad ydych eu hangen ond sydd mewn cyflwr addas i siop elusen leol neu eu gwerthu ar-lein ar Depop, eBay neu Marketplace ar Facebook (gwefan allanol).

Mwy o wybodaeth

Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.

Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.

Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.