Beth ddylwn i ei wneud â bagiau stoma, cathetrau, colostomi?

Bydd gwasanaeth casglu pwrpasol ar gael o fis Mehefin 2024.

Mae’r GIG yn cynghori bod angen gwagio bagiau colostomi neu stoma yn y toiled er mwyn gallu cael gwared â nhw’n ddiogel ac mewn ffordd lân.

Yna, lapiwch nhw a’u rhoi yn eich cynhwysydd priodol eich gwasanaeth ailgylchu a gwastraff neu mewn Parc Ailgylchu a Gwastraff:

Gwasanaeth Trolibocs

Gwasanaeth bagiau

Gwasanaeth biniau cymunedol

Canllawiau

Nwyddau Hylendid Amsugnol

O fis Mehefin 2024, byddwn yn cyflwyno gwasanaeth casglu am ddim ar draws y sir ar gyfer eich cynnyrch hylendid amsugnol, yn cynnwys clytiau tafladwy a chynnyrch hylendid amsugnol eraill.

Os byddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth newydd hwn, byddwn yn casglu’r gwastraff hwn i chi bob wythnos.

Mwy o wybodaeth

Mae gwasanaeth ailgylchu a gwastraff y cartref yn wasanaeth ar gyfer preswylwyr Sir Ddinbych.

Mae modd i fusnesau, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus ddefnyddio ein gwasanaethau gwastraff masnachol neu ddefnyddio contractwr rheoli gwastraff preifat trwyddedig.

Mwy o wybodaeth, yn cynnwys pa wasanaethau gwastraff masnachol sydd ar gael.