Ailgylchu a gwastraff: Bin olwynion neu Trolibocs wedi’i ddifrodi

Atgyweiriadau

Os ydi’ch bin olwynion neu’ch Trolibocs wedi’i ddifrodi, efallai y gallwn ni ei drwsio.

Mae gennym ni ychydig o ddarnau sbâr ar gyfer biniau olwynion a chynwysyddion Trolibocs, ac mae’n bosibl y gallwn ni eu trwsio os oes angen y canlynol arnyn nhw:

Trolibocs

  • olwyn yn lle'r un bresennol (un neu ddwy)
  • ffrâm newydd
  • caead top newydd
  • fflapiau newydd ar gyfer y bocs canol neu’r bocs gwaelod
  • bocs top, canol neu waelod newydd

Biniau olwynion

  • olwyn yn lle'r un bresennol (un neu ddwy)
  • echel yn lle'r un bresennol
  • colyn/colynnau yn lle’r un/rhai presennol / ailosod y caead

Ni allwn osod caeadau eraill yn lle rhai sydd wedi torri o ganlyniad i’r nifer o wahanol fathau o finiau.

Faint mae atgyweirio bin yn ei gostio?

Am dri mis yn dechrau fis Mehefin 2024, ni fyddwn yn codi tâl arnoch chi am drwsio Trolibocs na bin newydd a ddanfonwyd fel rhan o’r gwasanaeth ailgylchu a gwastraff newydd.

O 1 Medi 2024, byddwch yn gorfod talu £12.50 am y gwasanaeth trwsio.

Trefnu i atgyweirio bin neu Trolibocs

Gallwch gysylltu efo ni i drefnu cael trwsio’ch bin neu’ch Trolibocs. Gadewch i ni wybod beth sydd arnoch chi ei angen, a chofiwch nodi lliw a maint y bin olwynion / pa ran o’r Trolibocs sydd wedi’i ddifrodi pan fyddwch chi’n cysylltu efo ni.

Cael bin neu Trolibocs newydd yn lle un sydd wedi’i ddifrodi

Os na ellir atgyweirio eich bin neu’ch Trolibocs, neu os hoffech chi gael un newydd, gallwch archebu un ar-lein.

Sut i archebu bin neu Trolibocs newydd.