Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.
Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Cuddio
Gwybodaeth a chanllawiau am eich gwasanaeth casgliadau ymyl palmant a chynwysyddion ailgylchu newydd.
Byddwn ni'n danfon eich cynwysyddion newydd rhwng 23 Chwefror a 17 Mai 2024. Byddwch yn derbyn pecyn gwybodaeth gyda’ch cynwysyddion newydd fydd yn y blwch top. Bydd hwn yn egluro'r newidiadau mewn mwy o fanylder, beth sy'n mynd i ble a sut ddylech gyflwyno eich cynwysyddion ar eich diwrnod casglu.
Pecynnau Gwybodaeth
Dysgwch fwy am y newidiadau i'ch casgliadau deunydd ailgylchu a gwastraff.
Dysgwch pa eitemau y gallwch eu hailgylchu a pha gynhwysydd i'w ddefnyddio.
Cwestiynau Cyffredin am y newidiadau i'r gwasanaeth casglu gwastraff a deunydd ailgylchu.
Byddwn yn casglu eich deunydd ailgylchu sych wedi'u didoli bob wythnos. Dysgwch fwy am y system Trolibocs.
O fis Mehefin 2024, byddwn ni'n casglu eich gwastraff nad oes modd ei ailgylchu bob 4 wythnos o'ch bin glas neu ddu 240 litr ar olwynion (neu bob wythnos o'ch bag du y gellir ei ailddefnyddio / sachau pinc).
Gwasanaeth casglu newydd ar gyfer eich dillad a thecstilau, wedi'i ddarparu gan ein partner Menter Gymdeithasol Co-Options.
Byddwn yn ailgylchu eich eitemau trydanol bach ac yn casglu hen fatris y cartref bob wythnos.
O fis Mehefin 2024, byddwn yn cyflwyno gwasanaeth casglu am ddim ar draws y sir ar gyfer eich cynnyrch hylendid amsugnol, yn cynnwys clytiau tafladwy a chynnyrch hylendid amsugnol eraill.
Dyddiadau casgliadau bin
Dyluniad eicon gan:
Browser does not support script.