Ynglŷn â'r Gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol
Mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael casgliadau wythnosol Nwyddau Hylendid Amsugnol os oes gan eich aelwyd unrhyw un o’r eitemau canlynol i’w gwaredu:
- clytiau tafladwy, bagiau clytiau a weips
- powlenni gwely a leinars
- padiau anymataliaeth
- padiau gwely a chadair
- bagiau colostomi a stoma
- bagiau cathetr a photeli wrin, a
- menig plastig a ffedogau untro.
Beth yw 'Nwyddau Hylendid Amsugnol?'
Mae Nwyddau Hylendid Amsugnol yn eitemau a ddefnyddir i amsugno hylifau’r corff a gwastraff megis clytiau, bagiau clytiau a weips, yn ogystal â chynnyrch anymataliaeth i oedolion.
Beth yw'r gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol?
Mae hwn yn wasanaeth casglu am ddim ar draws y sir ar gyfer eich Cynnyrch Hylendid Amsugnol. Os byddwch yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, byddwn yn casglu’r gwastraff hwn gennych chi bob wythnos.
Ar ôl ichi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, fe wnawn ni ddanfon y canlynol ichi:
- cyflenwad o sachau piws untro i chi eu llenwi â’ch gwastraff AHP,
- cadi du gyda chaead piws i chi roi eich sachau llawn ynddo i ni eu casglu,
- set o dagiau 'ail-archebu' - pan fyddwch ar fin rhedeg allan o sachau, clymwch un o’r tagiau hyn i handlen eich cadi, ac fe wnawn ni adael cyflenwad newydd o sachau ar ben, neu wrth ymyl, eich cadi – a
- llythyr yn cadarnhau'r diwrnod casglu, gyda nodyn atgoffa ynghylch yr hyn y byddwn yn ei gasglu fel rhan o’r gwasanaeth hwn.
Pam ydym ni wedi cyflwyno casgliadau ar gyfer Nwyddau Hylendid Amsugnol?
Gwyddom fod hyd at 20% o’r hyn y mae preswylwyr yn ei roi yn eu biniau du neu sachau pinc ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu yn wastraff Nwyddau Hylendid Amsugnol. Rydym wedi cyflwyno’r gwasanaeth hwn i symud y gwastraff hwn o’r cynwysyddion hynny, i greu mwy o le ar gyfer eich gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Rydym hefyd yn ystyried ffyrdd o ailgylchu’r nwyddau hylendid amsugnol hynny rydym yn eu casglu gennych. Rydym yn casglu'r gwastraff hwn ar wahân i’ch gwastraff ailgylchu ac na ellir ei ailgylchu ar draws y sir, fel y byddwn yn barod i ddechrau ailgylchu eich Cynnyrch Hylendid Amsugnol ar unwaith pan fydd gennym gontract â chyfleuster ailgylchu.
Pan fyddwn yn gallu ailgylchu Nwyddau Hylendid Amsugnol, gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch newydd, a allai gynnwys byrddau ffibr a phaneli acwstig ar gyfer lloriau a waliau, ac fel deunydd peirianneg i’w ddefnyddio ar arwynebau ffyrdd.
Sut galla i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol?
Cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol
Os byddwch yn dewis peidio â chofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casglu, neu os nad ydych yn gymwys i gofrestru, dylech barhau i roi eich Cynnyrch Hylendid Amsugnol yn eich cynhwysydd ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.
Pa fath o Nwyddau Hylendid Amsugnol fyddwch chi'n eu casglu?
Byddwn yn casglu:
- clytiau tafladwy, bagiau clytiau a weips
- powlenni gwely a leinars
- padiau anymataliaeth
- padiau gwely a chadair
- bagiau colostomi a stoma
- bagiau cathetr a photeli wrin, a
- menig plastig a ffedogau untro.
Ni fyddwn yn casglu:
- gwastraff clinigol, megis gorchuddion neu rwymynnau â gwaed arnynt; nodwyddau, chwistrellau a chynnyrch miniog eraill,
- nwyddau mislif megis leinars, tamponau a thyweli,
- unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu o gartref gan ddefnyddio eich cynwysyddion eraill gan y Cyngor, ac
- unrhyw eitemau y gellir eu hailgylchu yn eich Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol.
Faint mae'r gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol yn ei gostio?
Mae’r gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol am ddim i breswylwyr sy’n byw yn Sir Ddinbych.
Pa mor aml fyddwch chi'n casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol?
Pan fyddwch wedi cofrestru am y gwasanaeth, byddwn yn anfon llythyr yn cadarnhau eich diwrnod casglu a phryd gallwch ddisgwyl derbyn eich cadi a'ch bagiau porffor. Fe fydd y gwasanaeth yn cychwyn oddeutu 12 wythnos wedi i chi gofrestru. Ni ddylech gysylltu â'r Cyngor i wneud ymholiadau o fewn y cyfnod hwn, fe fydd y Cyngor yn cysylltu gyda chi.
Byddwn yn casglu gwastraff Nwyddau Hylendid Amsugnol o’ch cartref bob wythnos.
Cwestiynau Cyffredin
I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth casglu Nwyddau Hylendid Amsugnol, darllenwch eich Cwestiynau Cyffredin.