Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.
Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Cuddio
Gwybodaeth am y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i helpu gofalwyr gyda chostau byw.
Mae Lwfans Gweini yn helpu gyda chostau ychwanegol os oes gan rywun anabledd digon difrifol maent angen rhywun i helpu i ofalu amdanynt.
Mae’n bosibl y gallwch hawlio Lwfans Gofalwr os ydych yn gofalu am rhywun am o leiaf 35 awr yr wythnos a’u bod yn derbyn budd-daliadau penodol.
Gallech gael Credyd Gofalwyr os ydych yn gofalu am rywun am o leiaf 20 awr yr wythnos.
Efallai y bydd gennych yr hawl i ostyngiad ar eich treth cyngor, yn ddibynnol ar eich incwm.
Gall Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer Plant helpu â’r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â gofalu am blentyn.
I'r rhai sydd mewn caledi ariannol, mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig dau grant gwahanol nad oes angen i chi eu talu yn ôl.
Mae Credyd Pensiwn yn darparu arian ychwanegol i helpu gyda chostau byw i bobl dros oed Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel.
Gall Taliad Annibyniaeth Bersonol helpu i gwrdd â chostau byw ychwanegol os oes gan rywun gyflwr corfforol neu feddyliol hirdymor neu anabledd, a bod hynny’n gwneud tasgau penodol neu symud o gwmpas yn anodd.
Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal sy’n cefnogi pobl o oedran gwaith sydd naill ai ar incwm isel neu’n ddi-waith.
Os ydych chi’n gofalu am rywun, fe allwn ni eich cefnogi gyda’ch dyletswyddau.
Gwneud cais am fathodyn glas neu i’w adnewyddu.
Os ydych chi’n gofalu am rywun gydag anabledd neu gyflwr meddygol, mae’n bosibl y gallwch chi hawlio costau sy’n gysylltiedig ag anabledd.
Gall taliadau disgresiwn at gostau tai helpu pobl sy’n derbyn Budd-dal Tai/Credyd Cynhwysol â chostau rhent, blaendaliadau a/neu gostau symud tŷ.
Gwybodaeth am y gymorth ar gael gyda biliau tŷ a chludiant.
Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn darparu cyngor am ddim, cyfrinachol a diduedd ac yn ymgyrchu ar faterion mawr sy’n effeithio ar fywydau pobl.
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol a dienw am ddim i wirio pa gymorth ariannol y gallech fod yn gymwys iddo.
Browser does not support script.