Cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor
Gall cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor helpu pobl sydd ar incwm isel i dalu eu treth gyngor. Fe gaiff unrhyw swm a ddyfernir ei gredydu’n uniongyrchol i gyfrif treth y cyngor.
Ar gyfer pwy mae'r cynllun?
Fe allech gael help oherwydd y canlynol:
- rydych chi’n talu Treth Gyngor
- rydych chi ar incwm bychan neu’n hawlio budd-daliadau
- mae eich cynilion yn is na lefel arbennig - £16,000 fel arfer
Faint o help allaf i ei gael?
Gallwch gael gostyngiad o hyd at 100% ar eich treth cyngor. Mae faint o ostyngiad y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau e.e. eich incwm, pwy sy'n byw yn eich cartref a'ch cynilion.
Gallwch ffeindio beth allech chi fod â hawl iddo drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau.
Sut i ymgeisio
Gallwch gael gostyngiad o hyd at 100% ar eich treth gyngor. Bydd faint o ostyngiad gewch chi’n dibynnu ar eich amgylchiadau e.e. eich incwm, pwy sy’n byw ar eich aelwyd a’ch cynilion.
Llenwi ffurflen ar-lein
Mae'r ffurflen gais ar-lein dim ond ar gael yn Saesneg ar hyn o bryd.
Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen hawlio i hawlio budd-dal tai a phrydau ysgol am ddim.
Os ydych wedi gwneud cais, gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif neu gofrestru eich manylion i wirio eich hawl ar-lein.
Mewngofnodi neu gofrestru i weld eich hawl i gostyngiadau'r dreth gyngor
Os bydd eich amgylchiadau'n newid
Os bydd yna newid yn amgylchiadau eich aelwyd, rhowch wybod i ni ar unwaith gan y bydd yn debygol o effeithio ar eich hawliad. Os na fyddwch yn ein diweddaru mewn pryd, gallech fod ar eich colled neu orfod talu arian yn ôl.
Os ydych wedi symud cyfeiriad , gallwch roi gwybod am newid cyfeiriad ar-lein.
Gallwch gysylltu â ni am unrhyw newidiadau eraill yn eich amgylchiadau.