Cymorth â Chostau Byw: Pobl anabl

Gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i helpu pobl anabl gyda chostau byw. 

Gwasanaethau a gwybodaeth

Lwfans Gweini (gwefan allanol)

Mae Lwfans Gweini yn helpu gyda chostau ychwanegol os oes gan rywun anabledd digon difrifol maent angen rhywun i helpu i ofalu amdanynt.

Bathodyn Glas

Gwneud cais am fathodyn glas neu i’w adnewyddu.

Cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor

Efallai y bydd gennych yr hawl i ostyngiad ar eich treth cyngor, yn ddibynnol ar eich incwm.

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal sy’n cefnogi pobl o oedran gwaith sydd naill ai ar incwm isel neu’n ddi-waith.

Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer Plant (gwefan allanol)

Gall Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer Plant helpu â’r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â gofalu am blentyn.

Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) (gwefan allanol)

I'r rhai sydd mewn caledi ariannol, mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig dau grant gwahanol nad oes angen i chi eu talu yn ôl.

Taliad Annibyniaeth Bersonol (gwefan allanol)

Gall Taliad Annibyniaeth Bersonol helpu i gwrdd â chostau byw ychwanegol os oes gan rywun gyflwr corfforol neu feddyliol hirdymor neu anabledd, a bod hynny’n gwneud tasgau penodol neu symud o gwmpas yn anodd.

Teithio Consesiynol

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn, neu os oes gennych chi anabledd, gallwch hawlio cerdyn teithio consesiynol am ddim gan Drafnidiaeth Cymru.

Costau cysylltiedig ag anabledd (gwefan allanol)

Os ydych chi’n gofalu am rywun gydag anabledd neu gyflwr meddygol, mae’n bosibl y gallwch chi hawlio costau sy’n gysylltiedig ag anabledd.

Taliadau tai yn ôl disgresiwn

Gall taliadau disgresiwn at gostau tai helpu pobl sy’n derbyn Budd-dal Tai/Credyd Cynhwysol â chostau rhent, blaendaliadau a/neu gostau symud tŷ.

Cymorth gyda biliau tŷ a chludiant

Gwybodaeth am y gymorth ar gael gyda biliau tŷ a chludiant.

Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych (gwefan allanol)

Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn darparu cyngor am ddim, cyfrinachol a diduedd ac yn ymgyrchu ar faterion mawr sy’n effeithio ar fywydau pobl.

Cyfrifiannell budd-daliadau (gwefan allanol)

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol a dienw am ddim i wirio pa gymorth ariannol y gallech fod yn gymwys iddo.