Y Cynllun Cymorth Costau Byw
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth i ddarparu taliad i gartrefi i helpu gyda'r cynnydd mewn costau byw.
Mae ymgeisio am y cynllun hwn bellach ar gau.
Derbyn taliad cymorth
Ym mwyafrif yr achosion, byddwn yn anfon taliad costau byw i’ch cyfrif banc os ydych yn talu eich treth y cyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Os byddwch yn gwneud cais am daliad, byddwn yn anelu at brosesu ceisiadau o fewn 28 diwrnod gwaith o dderbyn y cais.
Debyd Uniongyrchol
Gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol ar-lein i dalu eich treth cyngor, ac os ydych yn gymwys, cyn belled â’ch bod wedi gwneud eich taliad Debyd Uniongyrchol cyntaf, gallwn anfon taliad costau byw i’ch cyfrif banc heb i chi orfod gwneud cais.
Sefydlu Debyd Uniongyrchol i dalu eich treth cyngor
Cyfrifon Treth y Cyngor ar y Cyd
Byddem yn gwneud taliad i’r unigolyn arweiniol ar y cyfrif treth y cyngor, neu yn achos talwyr Debyd Uniongyrchol, bydd y taliad yn mynd i’r cyfrif banc a ddefnyddir ar gyfer y Debyd Uniongyrchol.
Ceisiadau aflwyddiannus
Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod os oedd eich cais yn llwyddiannus neu ddim ac yn cynnig rhesymau dros y penderfyniad hwn. Nid oes proses apelio, ond mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech i ni adolygu ein penderfyniad.
Rhagor o wybodaeth
Dewiswch un o’r canlynol am ragor o wybodaeth:
Tai Amlfeddiannaeth
Caiff Tai Amlfeddiannaeth eu heithrio o’r prif gynllun ond bydd modd eu hystyried yn y cynllun dewisol.