Ardrethi Busnes: Rhyddhad Gwelliannau

Mae rhyddhad gwelliannau wedi cael ei gyflwyno er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r rhwystr posibl hwn i dwf a buddsoddi yn y sylfaen drethu, o 1 Ebrill 2024 ymlaen.

Beth sydd ar gael drwy’r cynllun hwn

Bwriedir i'r Rhyddhad Gwelliannau gefnogi talwyr ardrethi sy'n buddsoddi mewn gwelliannau i'w heiddo annomestig a fydd yn cefnogi eu busnes, drwy roi rhyddhad rhag cynnydd mewn gwerth trethiannol ar eu rhwymedigaeth i dalu ardrethi busnes am gyfnod o 12 mis.

Cymhwysir y rhyddhad drwy gyfrifo swm yr ardrethi busnes y gellir ei godi ar gyfer yr eiddo perthnasol fel petai'r gwerth trethiannol ar y rhestr ar gyfer y diwrnod dan sylw yn cyfateb i'r gwerth trethiannol hwnnw, tynnu’r cynnydd mewn gwerth trethiannol y gellir ei briodoli i'r gwaith gwella sy'n gymwys.

Bydd hyn yn sicrhau bod busnesau a thalwyr ardrethi eraill yn gallu dechrau gweld manteision y gwelliannau a wneir ganddynt, cyn i'w bil ardrethi busnes gynyddu.

Cymhwyster

I fod yn gymwys ar gyfer y rhyddhad hwn, mae’n rhaid i chi fodloni’r meini prawf canlynol:

  • mae'n rhaid i'r gwaith cymwys arwain at newid cadarnhaol yng ngwerth trethiannol yr eiddo annomestig er mwyn bod yn gymwys i gael rhyddhad, ac;
  • mae’n rhaid bod yr eiddo wedi parhau i gael ei feddiannu ac nad yw'r talwr ardrethi wedi newid yn ystod y cyfnod ers i'r gwaith cymwys ddechrau

Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn penderfynu a yw’r amod gwaith cymwys wedi’i fodloni ac effaith unrhyw welliannau i eiddo ar ei werth trethiannol.

Darganfyddwch fwy am gymhwysedd ar gyfer y cynllun hwn ar wefan Busnes Cymru (gwefan allanol)

Sut i gael Rhyddhad Gwelliannau

Os ydych chi’n meddwl bod gennych hawl i Ryddhad Gwelliannau, bydd angen i chi gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Bydd y rhyddhad yn cael ei roi’n awtomatig i’ch bil pan fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi ardystio bod yr amod gwaith cymwys wedi’i fodloni. Bydd angen i chi barhau i dalu eich bil nes bod bil diwygiedig yn cael ei roi. 

Cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (gwefan allanol)