Mewngofnodi neu gofrestru eich cyfrif ardrethi busnes
Gallwch gadw golwg ar eich trethi busnes a gwneud newidiadau gyda chyfrif ar-lein.
Mae cofrestru yn hawdd a chyflym, bydd angen eich naw digid rhif cyfeirnod ardrethi busnes yn unig (sydd ar eich hysbysiad ardrethi busnes).
Neges bwysig am e-filiau Trethi Busnes
Rydym wedi nodi problem gyda'n e-filiau blynyddol sy'n effeithio ar sut mae'r cyfeirnod 9 digid yn ymddangos. Oherwydd gwall fformatio, mae'r bwlch rhwng y cyfeirnod a'r rhif bil ar goll, sy'n golygu bod y cyfeirnod yn ymddangos fel rhif 11 digid.
Wrth wneud taliad neu ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, defnyddiwch 9 digid cyntaf y rhif cyfeirnod yn unig.
Ymddiheurwn yn ddiffuant am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi a gwerthfawrogwn eich amynedd wrth i ni weithio i ddatrys y mater.
Mewngofnodwch neu cofrestrwch eich cyfrif
Gyda chyfrif ar-lein, gallwch:
Weld eich manylion ar-lein
Cael gwybod pryd fydd eich taliadau a faint fyddant
Trefnu e-Filio
Derbyn biliau a hysbysiadau drwy eich e-bost
Gwneud trefniant talu
Trefnu cynllun talu er mwyn talu eich trethi busnes.
Cofrestru ar gyfer Debyd Uniongyrchol
Mae talu trwy Ddebyd Uniongyrchol yn ddiogel ac yn hawdd – trefnwch Ddebyd Uniongyrchol i dalu eich trethi busnes.
Chwilio am werth trethiannol
Canfod beth yw gwerth trethiannol eiddo.