Mae hyn yn bwysig iawn i ni. Mae'n ymwneud â sut y caiff y Weledigaeth ei darparu a gan bwy.
Grymuso pobl a busnesau lleol i gymryd perchnogaeth o ganol eu tref yw un o'r ffyrdd gorau i sicrhau parch, gwytnwch a hunaniaeth mewn tref. Trwy ddarparu cyfleoedd i'r gymuned leol siapio canol tref y Rhyl, y gobaith yw y bydd ymdeimlad o falchder a phwrpas yn dod i'r amlwg, gan gyfrannu at wneud canol y dref yn fwy croesawgar ac, yn ei dro, denu buddsoddiad, twristiaid a siopwyr.
Credwn y bydd presenoldeb yr Ardal Gwella Busnes a Swyddfeydd Cyngor y Dref yng nghanol y dref, ynghyd â gwelededd y Ganolfan Dechnoleg wrth yr orsaf yn helpu i godi dyheadau a chyflawni camau gweithredu lleol sy'n dechrau trawsnewid canfyddiadau pobl o'r lle.