Prosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Cynllun Gwella Eiddo Canol y Dref
Arweinydd y Prosiect: Cyngor Sir Ddinbych
Trosolwg o’r prosiect
Bydd y prosiect hwn yn targedu eiddo gwag, blêr neu eiddo na ddefnyddir digon arnynt yng nghanol trefi er mwyn:
- dechrau gwelliannau i harddwch yr ardal
- ysgogi buddsoddiad
- cynyddu cyfleoedd gwaith
- gwella bywiogrwydd canol trefi Sir Ddinbych
Bydd hyn yn cael ei ddarparu drwy raglen grant sy’n agored i berchnogion a deiliaid eiddo masnachol yng Nghanol Tref er mwyn ariannu gwelliannau i ymddangosiad a hyfywedd adeiladau. Bydd y gwaith yn cael ei yrru trwy recriwtio dau Swyddog Gwella Lleoedd dynodedig a fydd yn bresenoldeb rhagweithiol yn y gymuned.
Diweddariad y prosiect
Mawrth 2024
Gwahoddwyd perchnogion/deiliaid eiddo masnachol i fynegi diddordeb mewn gweithredu prosiect i wella eu heiddo a chafwyd ymateb brwdfrydig i’r cynllun grantiau ymhob un o’r wyth ardal canol tref/dinas sy’n gymwys yn y sir.
Penodwyd dau o Swyddogion Gwella i gynorthwyo perchnogion/deiliaid eiddo masnachol i wella eu heiddo gyda’r nod o greu gwell lleoedd yn y trefi a’r ddinas i bobl siopa, ymweld a phreswylio.