Y Gronfa Ffyniant Bro: Prosiect Teithio Llesol Cynwyd i’r A5

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth y DU fel rhan o fuddsoddiad i Etholaeth De Clwyd cynt ac hefyd gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Bydd wyneb y llwybr yn cael ei ddiweddaru o dan y prosiect arfaethedig drwy ddefnyddio’r rheilffordd flaenorol gan gysylltu Cynwyd â’r A5, a fydd yn golygu bod y llwybr ar gael 365 diwrnod y flwyddyn. Yn ogystal â hyn, bydd croesfan i gerddwyr heb reolaeth yn cael ei greu ar yr A5, gyda gostyngiad cyflymder mewn grym i’w gwneud hi’n haws ac yn fwy diogel i gerddwyr a beicwyr i groesi / ymuno â’r A5.

Pwyntiau allweddol

Pwyntiau allweddol

Darparu llwybr teithio llesol heb draffig, gan wella mynediad i gerddwyr a beicwyr rhwng Cynwyd a Chorwen.

Oherwydd ei wyneb, bydd y gwaith yn sicrhau bod y llwybr ar gael 365 diwrnod y flwyddyn.

Bydd croesfan heb ei rheoli ar yr A5, er mwyn ei gwneud hi’n haws i gerddwyr groesi.

Y sefyllfa bresennol

Y sefyllfa bresennol

Gwaith clirio’r safle wedi dechrau.

Dechreuodd y gwaith o osod croesfan heb ei rheoli yn fuan ym mis Tachwedd. Bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn y Nadolig.


Cysylltu â ni

Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Ariannu Ffyniant Bro’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.