Pedair Priffordd Fawr: Cwestiynau Cyffredin

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

A yw'r prosiect hwn yn rhan o ddatblygiadau Llangollen 2020?

A yw'r prosiect hwn yn rhan o ddatblygiadau Llangollen 2020?

Na, nid yw grŵp Llangollen 2020 bellach yn bodoli. Mae hwn yn brosiect newydd a gyflwynir gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae dal rhai prosiectau priffyrdd yn cael eu cyflawni o dan faner Llangollen 2020, mae’r rhain yn brosiectau ar wahân a gyflwynir gan wasanaethau Priffyrdd a Chludiant Sir Ddinbych.

A oes unrhyw ddyluniadau eto?

A oes unrhyw ddyluniadau eto?

Oes, mae'r dyluniadau cychwynnol bellach wedi eu rhannu gyda'n rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn gyffredinol am adborth erbyn 2 Ebrill 2023. Gallwch gyfeirio at adran yr Oriel ac Ymgynghori i gael gwybodaeth bellach. Edrychwn ymlaen at glywed eich safbwyntiau.

Beth sydd wedi digwydd i ddyluniadau cynharach ar gyfer yr ardal hon?

Beth sydd wedi digwydd i ddyluniadau cynharach ar gyfer yr ardal hon?

Bu i grŵp Llangollen 2020 ddatblygu rhai dyluniadau cysyniad cynnar ar gyfer prosiect y Pedair Priffordd Fawr.

Mae’r Cyngor wedi adolygu’r dogfennau hyn, mae rhai o’r cynigion eisoes wedi eu cyflawni ac ni fydd rhai yn bosib fel rhan o’r prosiect hwn. Un enghraifft o gynnig cynharach nad yw’n ymarferol fel rhan o’r prosiect hwn yw cynnig i gael llwyfan gwylio ger y bont.

Mae’r Cyngor yn casglu amrywiaeth o wybodaeth ar hyn o bryd i’w chynnwys mewn cynnig dylunio newydd ar gyfer y prosiect hwn.

Gwahoddir pobl leol, busnesau ac ymwelwyr i roi gwybodaeth ar beth sy’n bwysig iddyn nhw yn yr ardaloedd hyn i helpu i greu’r dyluniadau newydd.

Pan fydd dyluniadau newydd wedi eu datblygu byddant yn cael eu rhannu a chynhelir ymgynghoriad ar-lein ac yn y gymuned leol.

Sut mae hwn yn cyd-fynd â chynlluniau lleol eraill?

Sut mae hwn yn cyd-fynd â chynlluniau lleol eraill?

Mae'r prosiect yn ceisio ymdrin â hygyrchedd o amgylch y Lanfa a pharc Melin Dyfrdwy Isaf.

Mae hyn yn cefnogi blaenoriaethau o fewn Cynllun y Bobl 2022 - 2026 (gwefan allanol) a baratowyd gan 'Siapio fy Llangollen'.

Pan fydd dyluniadau yn barod ar gyfer y prosiect newydd hwn, a fydd ymgynghori pellach ar y cynigion?

Pan fydd dyluniadau yn barod ar gyfer y prosiect newydd hwn, a fydd ymgynghori pellach ar y cynigion?

Mae ymatebion i’n harolwg casglu gwybodaeth ym mis Chwefror wedi helpu i lywio dyluniadau cychwynnol sydd bellach ar gael ar-lein a hefyd yn cael eu harddangos yn Llyfrgell Llangollen tan ddydd Llun, 3 Ebrill 2023. Edrychwn ymlaen at glywed safbwyntiau pobl.

Mae’n bwysig i ni eich bod yn parhau i gymryd rhan drwy gydol y prosiect, felly byddwn yn gofyn am fwy o adborth ar unrhyw ddyluniadau eraill y byddwn yn eu datblygu.

A fyddaf yn cael gweld beth mae pobl wedi ei ddweud?

A fyddaf yn cael gweld beth mae pobl wedi ei ddweud?

Nid yw hon yn broses ymgynghori statudol felly nid oes yna ofyniad i’r Cyngor gyhoeddi ymatebion unigol.

Fodd bynnag, bydd y Cyngor yn llunio adroddiadau ar ganfyddiadau ein hymgynghoriadau. Bydd y rhain ar gael yn gyhoeddus pan fyddant yn barod.

Pryd fyddaf yn gweld y dyluniadau newydd?

Pryd fyddaf yn gweld y dyluniadau newydd?

Mae’r dyluniadau cychwynnol bellach wedi eu rhannu gyda’n rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn gyffredinol ar gyfer adborth erbyn 2 Ebrill 2023. Gallwch gyfeirio at adran yr Oriel ac Ymgynghori i gael gwybodaeth bellach. Edrychwn ymlaen at glywed eich safbwyntiau.

A fydd y gwaith a gynlluniwyd yn garbon niwtral neu hyd yn oed yn garbon bositif?

A fydd y gwaith a gynlluniwyd yn garbon niwtral neu hyd yn oed yn garbon bositif?

Gan nad ydym wedi dylunio’r prosiect eto, nid ydym yn gwybod beth fydd yr effaith carbon. Fodd bynnag, yn 2019, bu i’r Cyngor ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac mae wedi gosod targedau uchelgeisiol i fod yn Ddi-Garbon erbyn 2030, mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan. Felly bydd yr effaith carbon yn ystyriaeth allweddol wrth ddylunio a chyflawni’r prosiect.

Sut fyddwch yn rhoi gwybodaeth i bobl?

Sut fyddwch yn rhoi gwybodaeth i bobl?

Bydd gwybodaeth am y prosiect wrth iddo esblygu ar gael ar wefan y Cyngor yn ogystal â thrwy’r dulliau canlynol:

Gan fod Cyngor Sir Ddinbych yn anelu i fod yn Ddi-Garbon erbyn 2030, rhaid i ni ystyried sut rydym yn ymgysylltu â phawb i osgoi argraffu dogfennau yn ormodol.

Faint o arian mae Llangollen wedi ei gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer y prosiect hwn?

Faint o arian mae Llangollen wedi ei gael gan Lywodraeth y DU ar gyfer y prosiect hwn?

Bron i £1.2 miliwn wedi ei roi i brosiect y Pedair Priffordd Fawr.

Ar gyfer beth y rhoddwyd yr arian?

Ar gyfer beth y rhoddwyd yr arian?

Ar gyfer gwelliannau parth cyhoeddus 960 metr sgwâr, darparu dau beiriant cyfrif cerddwyr ar y Lanfa ac i wella arwyddion a dehongliad.

A yw’r prosiect ond i wella mynediad i wneud i ymwelwyr aros am fwy o amser, neu a fydd anghenion trigolion yn cael eu hystyried hefyd?

A yw’r prosiect ond i wella mynediad i wneud i ymwelwyr aros am fwy o amser, neu a fydd anghenion trigolion yn cael eu hystyried hefyd?

Cydnabyddir fod twristiaeth yn bwysig i’r dref, ond hefyd y gall effaith twristiaeth fod yn heriol i rai trigolion. Trwy gyflwyno’r prosiect hwn anelwn i wella mynediad i holl ddefnyddwyr y dref, gyda gwell arwyddion ar gyfer canfod cyrchfannau twristiaeth, dylai alluogi ymwelwyr i fynd o amgylch y dref yn rhwyddach.

Rwyf wedi clywed bod y tîm yn ystyried adeiladu llwyfan gwylio ar y bont. A yw hyn yn mynd i ddigwydd?

Rwyf wedi clywed bod y tîm yn ystyried adeiladu llwyfan gwylio ar y bont. A yw hyn yn mynd i ddigwydd?

Roedd y cais gwreiddiol am gyllid yn 2019 yn cyfeirio at y llwyfan gwylio / man cyhoeddus newydd ar gyffordd Heol y Castell a Ffordd yr Abaty Llangollen. Gan ein bod bellach bedair blynedd yn ddiweddarach mae llawer wedi newid, ac mae rhywfaint o’r gwaith yn y dyluniad gwreiddiol bellach wedi ei gwblhau gan Wasanaethau Priffyrdd a Chludiant Sir Ddinbych.

Ers cychwyn y prosiect, o’r wybodaeth a gasglwyd a’r adborth a gafwyd, daeth yn amlwg na ddylem gael llwyfan gwylio ar gyffordd Ffordd yr Abaty a Heol y Castell, ac felly mae’r elfen hon wedi ei dileu o’r prosiect.


A ydych yn bwriadu trwsio'r bont bren ym Mharc Melin Isaf Dyfrdwy?

A ydych yn bwriadu trwsio’r bont bren ym Mharc Melin Isaf Dyfrdwy?

Byddwn, gallwn gadarnhau y bydd y bont bren yn rhan o'n hystyriaethau ar gyfer unrhyw waith ym Mharc Melin Isaf Dyfrdwy.

O ystyried y lleoliad, mae opsiynau a deunyddiau amrywiol wedi'u harchwilio. Mae dyluniad y Tendr yn seiliedig ar strwythur Dur newydd, wedi'i baentio'n ddu (yn debyg o ran natur i'r grisiau a'r rampiau newydd). Er bod gan bren wedi'i drin oes dda, bydd Dur yn para llawer mwy na hyn a bydd yn gweithio'n dda gyda threftadaeth ddiwydiannol defnyddiau’r Felin a'r Rheilffordd.

Nid wyf yn ymweld â Pharc Melin Isaf Dyfrdwy gan na allaf ddefnyddio’r stepiau. A edrychir ar y rhain i wneud y parc yn fwy hygyrch?

Nid wyf yn ymweld â Pharc Melin Isaf Dyfrdwy gan na allaf ddefnyddio’r stepiau. A edrychir ar y rhain i wneud y parc yn fwy hygyrch?

Gallwn nawr gadarnhau y bydd gwell mynediad i mewn/allan o’r parc yn ffurfio rhan o’n hystyriaethau ar gyfer unrhyw waith ym Mharc Melin Isaf Dyfrdwy.

Pam fod y deunydd Corten oren wedi'i ddewis fel wal nodwedd yn y Lanfa yn lle llechi lleol?

Pam fod y deunydd Corten oren wedi'i ddewis fel wal nodwedd yn y Lanfa yn lle llechi lleol?

Mae'r defnydd o ddur Corten wedi cael ei ffafrio gan amrywiol aelodau o'r gymuned gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i CADW, Glandŵr Cymru (perchennog y tir yn y Lanfa), plant ysgol lleol a swyddogion mewnol Cyngor Sir Ddinbych. Mae'r cynnig ar gyfer nodwedd Corten/dur hindreulio ar waelod y Lanfa o uchder isel a ffurf main, dim ond 10m o hyd ac uchder mainc. Mae cynseiliau i Corten mewn trefi treftadaeth tebyg, gan gynnwys ar hyd Camlas Llangollen. Er bod Corten yn cael ei ddefnyddio'n helaeth ledled y byd mewn ffordd gyfoes, nid yw'n ddeunydd modern nac yn anghydnaws â'r cyd-destun ac fe'i defnyddir yn nodweddiadol fel plannwr a wal eistedd.

Gellir ystyried llechi ar gyfer yr ardal hon o hyd, ond byddai effaith cost a fyddai angen ei hasesu unwaith y bydd costau'r tendr wedi'u derbyn er mwyn pennu'r deunydd gorau i'w ddefnyddio.

Rwyf wedi clywed eich bod yn mynd i ddefnyddio resin i roi wyneb ar y ramp yn y Lanfa. A fydd hyn yn beryglus i'r ceffylau sy'n mynd i fyny ac i lawr bob dydd?

Rwyf wedi clywed eich bod yn mynd i ddefnyddio resin i roi wyneb ar y ramp yn y Lanfa. A fydd hyn yn beryglus i'r ceffylau sy'n mynd i fyny ac i lawr bob dydd?

Cynigir gosod wyneb â resin ar lethr yn y Lanfa. Addagrip neu gyfwerth - cymysgedd 50/50 gyda 'rwber crai' llwyd. Mae’r cyflenwr hefyd yn gweithio gydag arbenigwr arwynebau marchogol a fydd yn rhoi cyngor ar ymwrthedd i lithro cyn bo hir ac ymgynghorir â staff yn y Lanfa sy’n gweithio gyda’r ceffylau i sicrhau bod yr arwyneb yn dderbyniol. I nodi, po fwyaf mae’r deunydd yn gwrthsefyll llithro, y mwyaf o rwber sy'n cael ei ychwanegu at y cymysgedd a fyddai'n dywyllach na'r lliw a rennir yn y dyluniadau.

A ydych yn dal i gynllunio ar osod arwyddion polyn totem fel rhan o'r prosiect hwn?

A ydych yn dal i gynllunio ar osod arwyddion polyn totem fel rhan o'r prosiect hwn?

Mae'r arwyddion presennol wrthi'n cael eu datblygu. Byddai'r dyluniadau dangosol nad ydynt yn derfynol ar gyfer dyluniad, lliw a/neu osodiad yn cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio techneg enamel o ansawdd uchel iawn gan ddefnyddio alwminiwm a thechnegau argraffu modern ar gyfer dull cynaliadwy. Bydd y gosodiadau'n cael eu gwneud gan ddefnyddio deunyddiau a fyddai'n gwisgo'n galed, yn barhaol ac yn gadarn, a thrwy ddefnyddio deunyddiau a fydd yn eu gwneud yn anodd eu fandaleiddio a/neu beintio graffiti arnynt. Byddai natur y gwaith adeiladu hefyd yn caniatáu i'r cynnwys gael ei ddiweddaru a chynnwys newydd yn ei le pe bai angen.

Opsiwn arall yw gwahanu'r cynnwys dehongli a'r cynnwys dynodi ffordd, ond cynnal gosodiad unigol i osgoi creu annibendod diangen, yn dilyn adborth bod gormod o arwyddion yn y dref eisoes. Mae'r fersiwn hwn yn cynnig defnyddio mynegbyst ar gyfer dynodi ffordd gyda dehongliad ynghlwm wrth y postyn.

Rydym yn gweithio gyda Vision Support a'n tîm Gwaith Cymdeithasol Nam ar y Golwg mewnol i sicrhau bod yr arwyddion cywir yn cael eu gosod. Yn anffodus, nid yw'r arwyddion du ac aur traddodiadol mewn trefi bellach yn gynhwysol i bawb felly mae angen ystyried dyluniadau amgen.

Bydd ymgynghori'n parhau gyda budd-ddeiliaid a'r cyhoedd wrth i'r prosiect fynd rhagddo ynghylch rhai dyluniadau, lliwiau a gwaith celf.

Beth yw ystyr "dehongliad" ar yr arwyddion?

Beth yw ystyr "dehongliad" ar yr arwyddion?

Gall dehongliad ar arwyddion gynnwys cynnwys fel treftadaeth lle gan gynnwys darluniau, ffotograffau archif a modern, darluniau artistiaid lleol, mapiau darluniadol a ‘briwsion’ ar sail llwybrau gydag ymdeimlad o chwarae gêm, darganfod, archwilio a hwyl i ymwelwyr iau â’r dref.

Byddai hyblygrwydd y dyluniad a'r strwythur yn caniatáu ar gyfer newidiadau a diweddariadau i baneli cynnwys unigol.

Pam ydych chi’n ystyried rhoi wyneb newydd ar y palmant ar Ffordd yr Abaty y tu allan i’r eiddo a thafarn y Bridge End? A ymgynghorwyd â'r busnesau hyn?

Pam ydych chi’n ystyried rhoi wyneb newydd ar y palmant ar Ffordd yr Abaty y tu allan i’r eiddo a thafarn y Bridge End? A ymgynghorwyd â'r busnesau hyn?

Mae ein cynigion yn cynnwys opsiwn ar gyfer palmant newydd o fewn y briffordd fabwysiedig yn unig, i gyd-fynd â'r palmant ar draws y ffordd y naill ochr i'r bont, ac mae hyn yn amodol ar drafodaethau parhaus gyda'r Adran Briffyrdd. Ymgynghorir â thrigolion a busnesau lleol unwaith y byddwn wedi cael eglurder ar hyn a bydd hyn yn amodol ar gyfyngiadau cyllidebol. I gadarnhau, bydd unrhyw balmant o fewn perchnogaeth breifat yn cael ei gadw.

A fyddwch yn rhoi wyneb newydd ar y llwybr o Ffordd yr Abaty hyd at y Lanfa hyd yn oed os oes anghydfod ynghylch perchnogaeth?

A fyddwch yn rhoi wyneb newydd ar y llwybr o Ffordd yr Abaty hyd at y Lanfa hyd yn oed os oes anghydfod ynghylch perchnogaeth?

Ni fydd unrhyw waith yn cael ei wneud ar dir sydd y tu allan i'n hawdurdodaeth. Gan nad ydym wedi gallu cadarnhau pwy sy’n berchen ar y llwybr o waelod y Lanfa i Ffordd yr Abaty, ni fydd unrhyw waith yn digwydd yn yr ardal hon a dim ond y ramp a’r grisiau sy’n eiddo i Glandŵr Cymru sy’n berchen ar waith gwella.

Ydych chi'n paentio gwaith celf ar y groesfan i gerddwyr ar Stryd y Felin?

Ydych chi'n paentio gwaith celf ar y groesfan i gerddwyr ar Stryd y Felin?

Yn dilyn ymgynghoriad pellach gyda Phriffyrdd gallwn gadarnhau na fydd unrhyw waith celf yn cael ei osod ar y groesfan i gerddwyr.

Pam fod y grisiau metel ym Mharc Melin Isaf Dyfrdwy yn cael eu newid?

Pam fod y grisiau metel ym Mharc Melin Isaf Dyfrdwy yn cael eu newid?

Mae'r stepiau presennol yn llawer llai ac nid ydynt yn cyd-fynd â safonau cyfredol. Er mwyn darparu grisiau newydd, mae angen i ni wneud y strwythur yn fwy tra'n lleihau'r cloddio i'r arglawdd. Mae angen i ni hefyd glymu i mewn i'r wal gynnal garreg bresennol ar lan yr afon ac am y rheswm hwn, mae'r grisiau wedi eu trefnu gydag agoriad newydd i Ffordd yr Abaty a chau'r agoriad presennol yn y wal. Rydym wedi cael sawl cyfarfod a thrafodaeth gyda Cadw a Swyddog Cadwraeth Cyngor Sir Ddinbych i drafod y mater hwn ac rydym yn gweithio’n agos i sicrhau bod mesurau’n cael eu cyflwyno i leihau’r effaith ar leoliad yr heneb gofrestredig.

Mae gennym barc eisoes ar y Llwybr Glanrafon, felly beth ydych chi'n bwriadu ei osod ym Mharc Melin Isaf Dyfrdwy?

Mae gennym barc eisoes ar y Llwybr Glanrafon, felly beth ydych chi'n bwriadu ei osod ym Mharc Melin Isaf Dyfrdwy?

O gamau cynnar iawn y prosiect, yr adborth cymunedol a gawsom yn y Farchnad Nadolig a chyfarfodydd ysgol a digwyddiadau ymgysylltu cymunedol dilynol yw bod Parc Melin Isaf Dyfrdwy yn cael ei danddefnyddio ac yn fan anghofiedig.

Ysgogodd hyn ar unwaith adolygiad o opsiynau posibl nid yn unig i wella mynediad i’r parc, ond hefyd i ddarparu rheswm arall i bobl ymweld â’r ased hynod werthfawr hwn. Mae llawer o blant yn pasio drwodd gyda'u teuluoedd a'r meddwl oedd darparu arlwy chwarae natur nad yw'n bodoli yn unman arall yn y dref. I gadarnhau, nid yw'n gynllun i gael offer chwarae traddodiadol o fewn y parc gan y cydnabuwyd bod hwn eisoes ar gael ar y Llwybr Glanrafon yn Llangollen. I grynhoi, bwriedir iddo fod yn fan chwarae ac ymarfer corff achlysurol a bydd angen goruchwylio plant o oedran ifanc bob amser.

Bydd dyluniad terfynol y gosodiad yn cael ei gadarnhau unwaith y bydd y costau wedi'u derbyn ar gyfer pob darn o offer chwarae a bydd y cyfan yn dibynnu ar gyfyngiadau cyllidebol.

Mae llwybr dynodedig ar gyfer y rafftwyr hefyd wedi’i gynnig, i wneud eu ffordd o’r allanfa ar yr afon yn ôl i’w cerbydau ym Maes Parcio Stryd y Felin, gan fod adborth pellach a dderbyniwyd yn dangos bod y llwybr presennol sy’n cael ei gymryd yn effeithio ar yr ardal blannu yn y parc.

A yw'r gwaith hwn yn mynd i gostio mwy i drigolion yn eu Treth Cyngor am waith cynnal a chadw parhaus?

A yw'r gwaith hwn yn mynd i gostio mwy i drigolion yn eu Treth Cyngor am waith cynnal a chadw parhaus?

Mae ein dylunwyr a’n Tîm Prosiect wedi cyfarfod â Swyddogion Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych i drafod manyleb y man chwarae a’r rhaglen cynnal a chadw. Yn dilyn sicrwydd gan ein dylunwyr ynghylch y deunyddiau i'w defnyddio a'r driniaeth cyn ac ar ôl gosod, mae'r tîm wedi cael sicrwydd na fyddai'n creu baich ar yr adran.

Mae Gwasanaethau Stryd wedi cytuno i gwrdd â Thîm y Prosiect eto unwaith y bydd y costau wedi dod i mewn i drafod y rhaglen cynnal a chadw. Bydd unrhyw beth a fyddai’n gost sylweddol neu’n faich ar y tîm cynnal a chadw yn Llangollen yn cael ei hepgor cyn i’r contractwr ddechrau ar y gwaith.

A ydych wedi gwrando ar yr adborth a gawsoch gan y cyhoedd yn eich dwy rownd o ymgynghori neu a oedd y dyluniad eisoes wedi’i benderfynu a’i gytuno cyn ichi ofyn i’r cyhoedd beth yr hoffent ei weld yn Llangollen?

A ydych wedi gwrando ar yr adborth a gawsoch gan y cyhoedd yn eich dwy rownd o ymgynghori neu a oedd y dyluniad eisoes wedi’i benderfynu a’i gytuno cyn ichi ofyn i’r cyhoedd beth yr hoffent ei weld yn Llangollen?

Mae’r adborth a gawsom wedi cefnogi’r dyluniadau yn ogystal â thrafodaethau sydd wedi’u cynnal gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i blant ysgol lleol, perchnogion busnesau lleol, Swyddogion mewnol Cyngor Sir Ddinbych a Cadw a Glandŵr Cymru, oherwydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn agos at Heneb Gofrestredig a Safle Treftadaeth y Byd.

Rhannwyd yr Adroddiad Cryno ar Ymgysylltu â Rhanddeiliaid a Chymunedau a’r Adroddiad Cryno o Adborth Dyluniadau Cychwynnol â’n budd-ddeiliaid mewnol ac allanol ac ymatebwyr i’r holiadur yn gynharach eleni. Roedd yr adroddiadau hyn yn dystiolaeth o'r adborth a gawsom am yr hyn yr oedd pobl am ei weld o fewn y cynllun a'u barn am y dyluniadau cychwynnol. Mae'r adroddiadau hyn ar gael ar ein porth ymgysylltu, Sgwrs y Sir, Sir Ddinbych o dan yr adran Dywedoch Chi, Gwnaethom Ni.

Pryd fydd y gwaith yn dechrau ar y safle ar gyfer y prosiect hwn?

Pryd fydd y gwaith yn dechrau ar y safle ar gyfer y prosiect hwn?

Disgwylir i’r gwaith ddechrau ar y safle yn ystod yr wythnos yn dechrau 5 Chwefror 2024, gyda’r nod o’i gwblhau erbyn diwedd mis Mehefin 2024, os bydd y tywydd yn caniatáu.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro