Cefndir y prosiect
Nod y prosiect newydd hwn yw hyrwyddo a gwella pedair priffordd fawr Llangollen, drwy wneud gwelliannau i’r tirlun a’r beirianneg er mwyn gwella mynediad, bioamrywiaeth, gwelededd a dehongliad Safle Treftadaeth y Byd a Chamlas Llangollen, hen reilffordd Rhiwabon i’r Bermo, yr Afon Dyfrdwy a Ffordd Llundain i Gaergybi hanesyddol Thomas Telford (A5). Y nod yw gwella profiadau preswylwyr ac ymwelwyr ac annog pobl i dreulio mwy o amser yma. I gyflawni hyn, mae pedair prif ardal wedi cael eu nodi:
- Y Lanfa
- Mannau mynediad i'r Lanfa, y Rheilffordd a Pharc Melin Isaf Dyfrdwy
- Parc Melin Isaf Dyfrdwy
- Arwyddion a Chyfeirbyst
Mae'r gwaith arfaethedig ym mhob un o'r ardaloedd allweddol hyn yn debygol o gynnwys:
- Gwneud gwelliannau o amgylch y Lanfa, gan gynnwys gwelliannau i seddi, mynediad ac arwyddion
- Gwella arwyddion ar gyfer y Rheilffordd
- Gwella hygyrchedd ac arwyddion i Barc Melin Isaf Dyfrdwy
- Gwella, atgyweirio ac ail-ddelweddu Parc Melin Isaf Dyfrdwy
- Gwella arwyddion ymwelwyr ar gyfer lleoliadau allweddol