Rownd 2 Cronfa Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd: Trosolwg

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Rownd 2 Cronfa Ffyniant Bro

Cyhoeddwyd ail rownd y Gronfa Ffyniant Bro ar 23 Mawrth 2022. Cyflwynodd Cyngor Sir Ddinbych ddau gynnig ar wahân i’r ail rownd a oedd yn berthnasol i etholaeth Gorllewin Clwyd a Dyffryn Clwyd. Trwy broses hollgynhwysol, cyfrannwyd y prosiectau a oedd wedi eu cynnwys yn y cynigion gan Aelodau, Aelodau Seneddol, Cynghorau Tref a Swyddogion ar draws Sir Ddinbych. Roedd y prosiectau cymwys yn gyflawnadwy, yn ddylanwadol ac yn cyflawni meini prawf Cronfa Ffyniant Bro. Bu i ymgynghoriad pellach gyda Grwpiau Ardal Aelodau'r Cyngor ac Uwch Arweinyddiaeth arwain at y prosiectau terfynol yn y cynnig, a gymeradwywyd gan y Cabinet.

Ar ddydd Iau, 19 Ionawr, 2023 derbyniodd Cyngor Sir Ddinbych gadarnhad fod y cais i etholaeth Gorllewin Clwyd wedi bod yn llwyddiannus o dan rownd 2 o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth Y DU. Mae Cronfa Ffyniant Bro wedi’i ddyrannu i Sir Ddinbych yn dod i gyfanswm o £10.95m a bydd Rhuthun a’r cymunedau gwledig yn elwa ohono. Roedd Cyngor Sir Ddinbych yn siomedig fod cais Dyffryn Clwyd yn aflwyddiannus a’r cam nesaf fydd gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Y DU a’r AS i dderbyn adborth ar broses asesu’r cais. Bydd adolygiad o ddewisiadau cyllido yn y dyfodol yn cael ei wneud er mwyn penderfynu sut y bydd y prosiectau pwysig hyn yn cael eu cyflawni.

Rownd 2 Cronfa Ffyniant Bro: Cynigion prosiect llwyddiannus

Gallwch danysgrifio i’n rhestr bostio os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf ar brosiectau Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd.

Darganfod mwy am y rhestr bostio Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd.

Logo Wedi'i Yrru Gan Ffyniant Bro