Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch o fod wedi sicrhau £10.95 miliwn o Rownd 2 Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU i gefnogi datblygu 10 prosiect sydd â’r bwriad o warchod treftadaeth unigryw Rhuthun, cefnogi cymunedau gwledig a chefnogi lles.
Roedd y cynllun cyllid hwn ar agor i awdurdodau lleol gyflwyno cynigion ynghlwm â themâu adfywio, treftadaeth neu gludiant.
Cefnogwyd y cynigion oedd wedi’u cynnwys ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd gan gyn AS yr etholaeth, David Jones, ac aelodau etholedig lleol.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am gyflawni 8 o’r prosiectau. Bydd Cenhadaeth Dyffryn Clwyd yn cyflawni prosiect Eglwys a Chlwystai Sant Pedr a bydd Cymdeithas Canolfan Iâl Bryneglwys yn cyflawni prosiect Ysgol Bryneglwys – Canolbwynt Cymunedol.
Mae'r rhestr lawn o brosiectau i’w gweld isod.
Mae angen rhagor o waith datblygu a bydd y Cyngor yn ymgynghori ar brosiectau yn nes ymlaen eleni (i'w ddisgwyl yn y gwanwyn 2024). Darpar amserlenni yw’r rhain i gyd ar hyn o bryd a gallent newid.
Dylai unrhyw un a hoffai gael y wybodaeth ddiweddaraf ddilyn cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych.
Cronfa Ffyniant Bro Gorllewin Clwyd
Enw'r Prosiect / Gweithgaredd | Lleoliad | Disgrifiad |
Sgwâr Sant Pedr |
Rhuthun |
Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Cynllun o welliannau i’r parth cyhoeddus i wella llif cerddwyr a thraffig o amgylch y sgwâr a hwyluso lle canolog mwy hyblyg i gynnal digwyddiadau.
Mae tîm prosiect wedi’i sefydlu.
Disgwylir caffael y contract yn y gwanwyn 2025.
Cyfnod adeiladu arfaethedig: Medi 2025 i Chwefror 2026.
|
Eglwys a Chlwystai Sant Pedr |
Rhuthun |
Cenhadaeth Dyffryn Clwyd fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Gwelliannau er mwyn gwarchod yr adeiladau treftadaeth hyn yn well a sicrhau eu bod yn fwy hygyrch i bawb.
Cyfnod adeiladu arfaethedig: Tachwedd 2024 i Tachwedd 2025.
|
Tŵr Cloc Rhuthun |
Rhuthun |
Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Rhaglen o waith atgyweirio ac ailwampio tŵr y cloc.
Gwaith adeiladu wedi dechrau fis Awst 2024 â dyddiad cwblhau arfaethedig fis Tachwedd 2024.
|
Carchar Rhuthun/46 Stryd Clwyd |
Rhuthun |
Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Mae tîm prosiect wedi’i sefydlu.
Bydd mynedfa newydd i adeilad rhestredig gradd 2* Carchar Rhuthun yn cael ei hychwanegu drwy 46 Stryd Clwyd gyda gwell cyfleusterau ar gael i’r cyhoedd.
Cyfnod adeiladu arfaethedig: Rhagfyr 2024 i Mawrth 2025.
|
Nantclwyd-y-Dre, Rhuthun |
Rhuthun |
Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Mae tîm prosiect wedi’i sefydlu.
Adfer yr adain orllewinol restredig gradd 1 sydd wedi dadfeilio.
Cyfnod adeiladu arfaethedig: Chwefror 2025 i Medi 2025.
|
Cae Ddôl, Rhuthun |
Rhuthun |
Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Mae tîm prosiect wedi’i sefydlu.
Cynllun o welliannau i’r parth cyhoeddus sy’n ceisio gwella cysylltedd drwy’r parc a rhwng y parc a chanol y dref. Gwelliannau i’r maes parcio a’r cynnig hamdden o fewn y parc.
Mae proses ymgynghori wedi’i chwblhau ac mae crynodeb o’r adroddiad ar gael ar dudalen y prosiect.
Cyfnod adeiladu arfaethedig: Gaeaf 2025.
|
Cyfleusterau a Llwybrau Beicio Moel Famau |
Moel Famau |
Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Mae tîm prosiect wedi’i sefydlu.
Bydd y prosiect yn creu cyfleusterau toiledau a lluniaeth newydd a gwell. Bydd llwybrau beicio’n cael eu hymestyn a’u rheoli’n gynaliadwy.
Mae cais cynllunio wedi’i gyflwyno.
Cyfnod adeiladu arfaethedig: Mai 2025 i Rhagfyr 2025.
|
Adeilad ac Ardal Allanol Loggerheads |
Loggerheads |
Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Mae tîm prosiect wedi’i sefydlu.
Gwelliannau i’r adeilad presennol yn cynnwys gwelliannau mewnol ac ardal fwy dan do y tu allan. Mesurau rheoli llifogydd.
Mae cais cynllunio wedi’i gyflwyno.
Cyfnod adeiladu arfaethedig: Ebrill 2025 i Medi 2025.
|
Ysgol Bryneglwys - Canolbwynt Cymunedol |
Bryneglwys |
Cymdeithas Canolfan Iâl Bryneglwys fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Trawsnewid hen adeilad ysgol yn ganolfan gymunedol newydd.
Gwaith adeiladu wedi dechrau fis Gorffennaf 2024 â dyddiad cwblhau arfaethedig fis Rhagfyr 2024.
|
Gwyddelwern - Canolbwynt Cymunedol |
Gwyddelwern |
Cyngor Sir Ddinbych fydd yn cyflawni’r prosiect hwn.
Mae tîm prosiect wedi’i sefydlu.
Bydd canolbwynt cymunedol newydd, effeithlon o ran ynni yn cynyddu’r ystod o gyfleusterau sydd yn y pentref.
Mae cais cynllunio wedi’i gyflwyno.
Cyfnod adeiladu arfaethedig: Gorffennaf 2025 i Ebrill 2026.
|
Cynnal digwyddiad yn ein lleoliadau prosiect
Mae ein tudalen cynnal digwyddiad yn Sir Ddinbych yn cynnwys ffurflen ar-lein er mwyn rhannu manylion unrhyw ddigwyddiadau rydych chi’n eu trefnu. Wrth roi gwybod i’r Cyngor am eich digwyddiad, gallwn roi gwybod i chi a fydd gwaith ar unrhyw un o’n prosiectau yn debygol o effeithio arno.
Tudalennau cysylltiedig