Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol: Cynigion prosiect llwyddiannus 

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch o fod wedi cadarnhau £19.97m o Rownd 3 Cyllid Llywodraeth y DU i gefnogi datblygiad 7 prosiect gyda’r bwriad o wella canol trefi a’r ardaloedd cyfagos yn hen etholaeth Dyffryn Clwyd.

Roedd y cynllun cyllid hwn ar agor i awdurdodau lleol gyflwyno cynigion ynghlwm â themâu adfywio, treftadaeth neu gludiant.

Cefnogwyd y cynigion oedd wedi’u cynnwys ar gyfer hen etholaeth Dyffryn Clwyd gan gyn AS yr etholaeth ac aelodau etholedig lleol.

Mae'r rhestr lawn o brosiectau i’w gweld isod.

Pan fydd y cyllid wedi’i gadarnhau ac ar ôl sefydlu’r timau prosiect, bydd digwyddiad gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd yn cael ei drefnu i rannu gwybodaeth am y prosiectau gydag ymgynghoriad manwl pan fydd y prosiectau wedi’u datblygu ymhellach. Bydd digwyddiadau’n cael eu hyrwyddo gan y Cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg leol yn nes at yr amser.

Gallwch danysgrifio i’n rhestr bostio os hoffech dderbyn y newyddion diweddaraf ar brosiectau Balchder Bro a'r Amgylchedd Naturiol.

Darganfod mwy am y rhestr bostio Balchder Bro a'r Amgylchedd Naturiol: Rhyl, Prestatyn a Dinbych.

Rhestr lawn o brosiectau

Details of the LUF Round 3 projects are in the following table:

Cronfa Ffyniant Bro Rownd 3: Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol
Enw'r Prosiect / GweithgareddLleoliadDisgrifiad
Parth Cyhoeddus Canol Tref y Rhyl Y Rhyl

Cynllun i adfywio’r parth cyhoeddus a chreu gwell cysylltiad rhwng canol y dref a’r traeth.

Promenâd Canolog y Rhyl Y Rhyl

Gwella hygyrchedd a chreu gwell cysylltiad rhwng y promenâd a chanol y dref.

Parc Poced Porth Canol Tref y Rhyl Y Rhyl

Tynnu adeiladau anniogel a darparu gofod gwyrdd croesawgar ac ardaloedd eistedd, sy’n hygyrch i bawb.

Parth Cyhoeddus Marchnad y Frenhines y Rhyl Y Rhyl

Gwelliannau i gefnogi cynnig Marchnad y Frenhines y Rhyl.

Hen Ysbyty Gogledd Cymru Dinbych

Cynllun i ddymchwel rhannau anniogel a diogelu gweddill yr adeilad rhestredig Gradd II er mwyn gallu cyflawni gwaith datblygu sector preifat.

Parth Cyhoeddus Stryd Fawr Prestatyn Prestatyn

Gwella’r parth cyhoeddus ac isadeiledd gwyrdd ar y brif stryd fawr. Gwella hygyrchedd canol y dref.

Parc Natur Prestatyn Prestatyn

Darparu lle tawel i gerdded o amgylch y gwlypdir, gwella’r llwybr i gerddwyr a beicwyr trwy gysylltu â llwybrau eraill.

Cysylltu â ni

Defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol a dewiswch ‘Ariannu Ffyniant Bro’ fel y gwasanaeth perthnasol. Yn eich ymholiad, dywedwch wrthym pa brosiect y mae gennych ddiddordeb penodol ynddo a byddwn yn anfon y neges at y rheolwr prosiect perthnasol.

Cynnal digwyddiad yn ein lleoliadau prosiect

Mae ein tudalen cynnal digwyddiad yn Sir Ddinbych yn cynnwys ffurflen ar-lein er mwyn rhannu manylion unrhyw ddigwyddiadau rydych chi’n eu trefnu. Wrth roi gwybod i’r Cyngor am eich digwyddiad, gallwn roi gwybod i chi a fydd gwaith ar unrhyw un o’n prosiectau yn debygol o effeithio arno.