Trosolwg Y Gronfa Ffyniant Bro

Logo Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Cyflwynwyd y Gronfa Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU yn 2020 ac fe ddyfarnwyd y cyllid olaf yn 2024. Diben penodol y gronfa oedd cefnogi buddsoddi mewn mannau lle gall wneud y gwahaniaeth mwyaf, yn cynnwys hen ardaloedd diwydiannol, trefi difreintiedig a chymunedau arfordirol. Roedd y Gronfa’n canolbwyntio ar fuddsoddiadau cyfalaf.

Bwriad y Gronfa Ffyniant Bro oedd buddsoddi mewn isadeiledd lleol. Roedd hyn yn cynnwys ystod o flaenoriaethau buddsoddi lleol o werth uchel, yn cynnwys cynlluniau cludiant lleol, prosiectau adfywio trefol ac asedau diwylliannol. Roedd disgwyl i Aelodau Seneddol (AS) ddarparu cymorth lle tybiwyd fod hynny’n briodol. Yng Nghymru, roedd ceisiadau (cynigion) am gyllid yn cael eu cyflwyno gan yr awdurdodau lleol. Roedd nifer y ceisiadau y gallai awdurdod lleol eu gwneud yn berthnasol i nifer yr Aelodau Seneddol yn eu hardal. Roedd y broses ymgeisio yn gystadleuol, a oedd yn golygu na fyddai pob awdurdod lleol yn llwyddo i gael y cyllid.