Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus

Cyflwynwyd Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus fel rhan o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Mae'r Gorchmynion hyn yn pennu ardal lle mae gweithgareddau yn cael eu cynnal sydd neu sy’n debygol o fod yn niweidiol i ansawdd bywyd y gymuned leol.

Mae'r Gorchmynion yn gosod amodau neu gyfyngiadau ar bobl sy'n defnyddio'r ardal honno.

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Canol Tref Y Rhyl (PSPO) 2024


Cosb am dorri Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus

Mae unrhyw bersonau a geir yn euog o dorri'r gorchymyn yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy (gweler y gorchymyn i weld lefelau uchaf y ddirwy).

Yn dibynnu ar yr ymddygiad dan sylw, gallai'r swyddog gorfodi benderfynu mai rhybudd cosb benodedig i fynnu at £100.00 fyddai'r gosb fwyaf priodol.

Gall Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus gael eu gorfodi gan swyddogion yr heddlu, swyddogion diogelwch cymunedol yr heddlu ac unrhyw swyddogion a ddynodwyd gan Gyngor Sir Ddinbych.