Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.
Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Cuddio
Mae Cynnyrch Coed Meifod yn cynhyrchu dodrefn pren i’r ardd ac yn darparu gwasanaeth profiad gwaith i oedolion ag anableddau dysgu.
Ni yw Cynnyrch Coed Meifod sy’n gweithredu ar Stad Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych. Rydym yn cynhyrchu dodrefn pren i’r ardd ac yn darparu gwasanaeth profiad gwaith i oedolion ag anableddau dysgu.
Mae ein dodrefn graenus yn cynnwys meinciau, byrddau picnic a bocsys planhigion, oll wedi’u llunio’n fedrus a gofalus gan bobl sy’n cymryd rhan yn ein rhaglen cyflogaeth â chymorth.
Dyma gynnyrch a wnaiff bara, sy’n ffordd o greu lleoedd eistedd yn yr awyr agored heb niweidio’r amgylchedd a darparu lle cyfforddus i’n cwsmeriaid ymlacio yn eu gerddi.
Llunnir pob dodrefnyn â choed a gafwyd o ffynhonnell gynaliadwy gan sicrhau ei fod â golwg graenus ac wedi’i wneud i bara.
Wrth brynu gan Meifod rydych chi’n cyfrannu at yr economi leol a hefyd at gymdeithas drwy gefnogi pobl ag anableddau dysgu i fagu sgiliau gwerthfawr a chael profiad o fyd gwaith. Mae’n hawdd gweld sut mae’r cynnyrch yn para wrth ymweld ag amryw gymunedau yn Sir Ddinbych lle’r ydym wedi darparu ein nwyddau ers blynyddoedd lawer i gynghorau tref a chymuned.
Darllenwch bamffled Cynnyrch Coed Meifod.
Cynnyrch Coed Meifod: Pamffled (PDF, 1.36MB)
Cymerwch olwg ar restr brisiau Cynnyrch Coed Meifod.
Cynnyrch Coed Meifod: Rhestr brisiau (PDF, 289KB)
Os hoffech archebu rhywbeth o’n pamffled, cysylltwch â ni.
Drwy e-bost: meifod.woodproducts@denbighshire.gov.uk
Dros y ffôn: 01745 816900
Cynnyrch Coed Meifod,Uned 3,Stad Ddiwydiannol Colomendy,Ffordd y Rhyl,Dinbych LL16 5TA.
www.sirddinbych.gov.uk/cynnyrch-coed-meifod
Browser does not support script.