Cod Ymarfer Da ar gyfer micro ddarparwyr yn Sir Ddinbych
Micro ddarparwr yw busnes bach, annibynnol a lleol sydd â llai nag 8 o weithwyr neu wirfoddolwyr cyfwerth â llawn amser, sy’n cynnig gwasanaethau neu gymorth sy’n helpu pobl i wella eu hiechyd neu eu lles.
Mae’r Cod Ymarfer Da hwn yn nodi’r safonau y mae micro ddarparwyr yn ymrwymo iddynt yn Sir Ddinbych, a hynny ar gyfer dinasyddion sy’n defnyddio, neu’n ystyried defnyddio gwasanaethau micro ddarparwyr. Dim ond y micro ddarparwyr sy’n ymrwymo i’r safonau hyn fydd yn cael eu cynnwys yng Nghyfeiriadur Micro Ddarparwyr Cyngor Sir Ddinbych.
Gall micro ddarparwyr gynnig ystod eang o gymorth i helpu i ddiwallu anghenion unigol, gan gynnwys:
- Cefnogaeth yn y cartref: gofal personol, coginio, glanhau, siopa, mynd ar neges, cwmni;
- Cefnogaeth i fynd allan o gwmpas yn eich cymuned: gweithgareddau, diddordebau, therapïau, dysgu sgiliau newydd, gwasanaethau dydd, cefnogaeth gan gymheiriaid.
Gweler y Canllaw Cymorth i gael rhagor o wybodaeth ynghylch micro ddarparwyr a defnyddiwch y cyfeiriadur i ddod o hyd i ficro ddarparwyr lleol yn eich ardal chi.
Sylwch: Nid yw Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) yn cymeradwyo nac yn achredu’r micro ddarparwyr yn ei gyfeiriadur, ac felly ni all sicrhau boddhad nac ansawdd unrhyw wasanaethau a ddarperir. Ni all CSDd chwaith dderbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y wybodaeth a ddarperir gan unrhyw ficro ddarparwr yn y cyfeiriadur hwn.
Safonau yn y Cod Ymarfer Da
Mae’r micro ddarparwyr yng Nghyfeiriadur Sir Ddinbych wedi ymrwymo i’r safonau canlynol:
Cyfreithiol
- Cydymffurfio â’r holl ofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol sy’n ofynnol ar gyfer micro ddarparwyr, gan gynnwys mewn perthynas ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
- Bod yn gwbl annibynnol o unrhyw sefydliad mwy neu riant-sefydliad.
- Cofrestru’r busnes gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi.
- Bod ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac yswiriant arall ar gyfer pob agwedd ar y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan ficro ddarparwyr.
- Bod pob gweithiwr wedi mynd trwy’r gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (o fewn y 3 blynedd diwethaf).
- Dilyn gweithdrefnau pendant ar gyfer asesu ac adolygu anghenion cwsmeriaid yn rheolaidd, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig yn addas ac yn diwallu eu hanghenion.
- Cadw dogfennau canllaw ar gyfer rheoli risg, diogelwch a diogelu sy’n ymwneud â holl agweddau perthnasol y gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd.
- Cadw contractau ysgrifenedig gyda'r holl bobl sy'n derbyn gwasanaethau a / neu eu cynrychiolwyr.
- Deall canllawiau ar ddiogelu a sut i adrodd am bryderon.
- Bod â dogfennau polisi ar ddiogelu data (Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data).
- Bod â dogfennau canllaw ar asesiadau risg.
Ansawdd
Mae micro ddarparwyr a gweithwyr yn cadw at ‘God Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol’, Gofal Cymdeithasol Cymru (2017): Mae saith adran iddo:
- Parchu safbwyntiau a dymuniadau, a hybu hawliau a diddordebau unigolion a gofalwyr.
- Ymdrechu i ennyn a chynnal ymddiriedaeth a hyder unigolion a gofalwyr.
- Hybu lles, llais a rheolaeth unigolion a gofalwyr, a hynny wrth eu cefnogi i aros yn ddiogel.
- Parchu hawliau unigolion gan geisio sicrhau nad yw eu hymddygiad yn achosi niwed iddyn nhw eu hunain na phobl eraill.
- Gweithredu yn onest a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn gofal cymdeithasol.
- Bod yn atebol am ansawdd eich gwaith a derbyn cyfrifoldeb dros gynnal a datblygu gwybodaeth a sgiliau.
- Yn ogystal ag adrannau 1 - 6, os ydych chi’n gyfrifol am reoli neu arwain staff, rhaid i chi sefydlu’r Cod yn eu gwaith hwythau hefyd.
Proffesiynol
- Gwerthfawrogi'r unigolion y maent yn eu cefnogi
- Bod yn hyblyg ac yn ymatebol i newidiadau
- Hyrwyddo annibyniaeth a dewis unigolion
- Bod yn ddibynadwy a chyson
- Cael eu harwain gan y sawl a gefnogir a’r hyn sydd ei angen arnynt.
- Bod yn glir a thryloyw a chynnig prisiau teg
- Cynnal ffiniau proffesiynol gyda chwsmeriaid
- Bod yn agored, gonest a dibynadwy bob amser
- Cadw gwybodaeth am unigolion yn gyfrinachol
- Cadw at gyfnodau rhybudd pendant ar gyfer terfynu gwasanaethau
- Dylent ymgymryd â gweithgareddau a defnyddio cyfarpar y maent yn brofiadol, yn gymwys, wedi’u hyswirio ac wedi derbyn hyfforddiant i’w cynnig / defnyddio yn unig.
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am ficro ddarparwyr, cysylltwch â Nick Hughes, Dirprwy Reolwr Tîm Ar Ymyl Gofal, Cyngor Sir Ddinbych drwy nick.hughes@denbighshire.gov.uk neu 07747461646.