Cyfeiriadur o Feicro-ddarparwyr Sir Ddinbych
Lluniwyd y cyfeiriadur hwn ar gyfer pobl a’u teuluoedd sy’n chwilio am ofal a chefnogaeth, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r cyfeiriadur hwn yn cynnwys manylion amrywiaeth eang o feicro-ddarparwyr unigol a beth sydd ganddynt i’w gynnig.
Cyfeiriadur o Feicro-ddarparwyr Sir Ddinbych (PDF, 752KB)
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cefnogi’r meicro-ddarparwyr hyn i ddarparu gofal a chefnogaeth bersonol o ansawdd uchel yn y gymuned ar draws y rhanbarth. Mae’r meicro-ddarparwyr hyn yn darparu ystod eang o gymorth a chefnogaeth i bobl hŷn, a phobl ag anableddau. Mae hyn yn helpu pobl i deimlo’n ddiogel ac yn dda yn eu cartref ac yn rhoi dewis a rheolaeth iddynt dros eu gofal a’u cefnogaeth.
Mae’r meicro-ddarparwyr hyn wedi cwblhau rhaglen ddatblygu lle cawsant gyngor a chefnogaeth i sefydlu eu gwasanaeth i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar les, gofal ac iechyd i helpu pobl leol. Mae pob meicro-ddarparwr yn y cyfeiriadur hwn hefyd wedi llofnodi hunan-ddatganiad yn cadarnhau eu bod wedi cwblhau agweddau cyfreithiol a hyfforddiant penodol.
Mae’n bwysig bod yn ymwybodol, nid yw cynnwys meicro-ddarparwr yn y cyfeiriadur hwn, yn golygu ei fod wedi’i achredu neu ei gymeradwyo mewn unrhyw ffordd gan Gyngor Sir Ddinbych.
Cyn i chi ddefnyddio gwasanaethau meicro-ddarparwr, argymhellir yn gryf eich bod yn siarad gyda nhw neu’n eu cyfarfod yn gyntaf. Byddwch yn prynu gwasanaethau neu gefnogaeth yn uniongyrchol ganddynt, felly mae’n rhaid i chi fod yn sicr eu bod yn gwneud beth rydych chi ei eisiau yn y ffordd rydych chi ei heisiau.
Canllaw defnyddio Micro-ddarparwr
Ni all Cyngor Sir Ddinbych dderbyn unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd am y wybodaeth a ddarperir gan unrhyw feicro-ddarparwr ar y rhestr hon. Ni allwn sicrhau bodlonrwydd neu ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan y meicro-ddarpawyr ar y rhestr hon.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y Rhaglen Ddatblygu, cysylltwch â Nick Hughes, Dirprwy Reolwr Tîm, Tîm Ffiniau Gofal Sir Ddinbych ar nick.hughes@denbighshire.gov.uk neu 07747461646.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon diogelu, cysylltwch â Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd Sir Ddinbych ar 0300 4561 000, 8am - 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 10am - 4pm ar benwythnosau a Gwyliau Banc; 0345 053 3116 tu allan i’r oriau hyn.