Ar Ymyl Gofal Menter Meicro-ddarparwr
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal rhaglen ddatblygu am ddim i gefnogi trigolion i sefydlu eu gwasanaeth meicro-ddarparwr eu hunain yn eu cymunedau lleol.
Mae'r meicro-ddarparwr yn cynnig gofal a chymorth i bobl hŷn ac anabl yn eu cartrefi eu hunain i’w helpu i fyw eu bywydau fel y dymunant.
Yn syml, rydym yn cefnogi pobl leol sy'n helpu pobl leol eraill.
Mae’r rhaglen fentora yn hollol rhad ac am ddim i ymuno â hi a bydd yn eich galluogi i weithio i chi’ch hun, dewis eich oriau eich hun, gweithio’n lleol a chynnig gwasanaeth y gallwch fod yn falch ohono.
Bydd y rhaglen yn cynnig pwynt cyswllt cyfeillgar a chefnogol i chi sefydlu eich gwasanaeth meicro-ddarparwr yn iawn a rhoi gwybodaeth ymarferol i chi am reoleiddio, hyfforddiant a chyfleoedd yn y sector gofal cymdeithasol.
Byddwch yn ymuno â rhwydwaith o feicro-ddarparwr eraill yn Sir Ddinbych sy'n helpu pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain yn hirach ac yn gwella ansawdd eu bywydau trwy ystod eang o wasanaethau.
Gallai meicro-ddarparwr gynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys; cymrth ymarferol o amgylch y tŷ, glanhau, helpu gyda phrydau bwyd, DIY, siopa, gofal personol, mynd â chŵn am dro, cwmnïaeth a llawer mwy.
Byddwn yn cefnogi unrhyw wasanaeth a fydd yn helpu rhywun i fod yn fwy diogel a hapusach yn eu cartref eu hunain.
Os ydych chi'n meddwl yr hoffech chi ddysgu mwy am y rhaglen newydd gyffrous hon, llenwch ein ffurflen ymholiad ar-lein isod a bydd rhywun yn cysylltu â chi.
Ar Ymyl Gofal: Ymholiad menter Meicro-ddarparwr
Cyfeiriadur o Feicro-ddarparwyr Sir Ddinbych
Canllaw defnyddio micro-ddarparwr