Ffilmio yn Sir Ddinbych

Bydd angen caniatâd gennym ni os ydych yn bwriadu ffilmio lluniau teledu, ffilm neu drôn ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn Sir Ddinbych.

Ffilmio ar dir preifat

Gallwn ond rhoi caniatâd i ffilmio dros dir sy’n eiddo i ni.  Ni allwn roi caniatâd i ffilmio dros dir preifat.  

Os hoffech ffilmio ar dir preifat, eich cyfrifoldeb chi yw cael caniatâd gan berchennog y tir hwnnw.

Ni allwn roi unrhyw wybodaeth am berchnogion tir preifat.

Eitemau Newyddion

Anfonwch e-bost at ein hadran Cysylltiadau Cyhoeddus i ofyn am ganiatâd i ffilmio unrhyw un o’r canlynol:

  • eitem newyddion sy’n ymwneud â Chyngor Sir Ddinbych
  • aelod o Gabinet Cyngor Sir Ddinbych
  • gweithiwr Cyngor Sir Ddinbych

Gofynnwn i’r cyfryngau beidio â chysylltu’n uniongyrchol â swyddogion unigol y Cyngor.

Pan fyddwch yn anfon e-bost at ein hadran Cysylltiadau Cyhoeddus, cofiwch gynnwys:

  • pwy yr hoffech chi eu cyfweld
  • ym mhle yr hoffech chi ffilmio / recordio
  • pryd yr hoffech chi ffilmio (dyddiad ac amser)
  • beth fyddai cynnwys y cyfweliad

Mae cyfathrebiadau Llywodraeth Leol yn cael eu rheoleiddio gan y Cod Ymarfer a Argymhellir ar Gyhoeddusrwydd Awdurdodau Lleol.

Ffilmio ar ffyrdd cyhoeddus

Os ydych chi’n bwriadu ffilmio ar briffordd gyhoeddus ac yn mynd i fod yn cyfyngu ar lif y traffig neu fynediad i gerddwyr, efallai bydd gofyn i chi benodi cwmni rheoli traffig i drefnu system rheoli traffig dros dro, fel:

  • Byrddau Stop/Go dros dro
  • Cau ffordd dros dro
  • Goleuadau traffig dros dro

Os hoffech fanylion cyswllt ar gyfer cwmni rheoli traffig ffyrdd, cysylltwch â ni

Ffilmio gyda dronau

Os ydych yn bwriadu ffilmio gyda drôn, mae’n rhaid i chi gael caniatâd gan berchennog y tir i gychwyn a glanio’r drôn.  Heb ganiatâd, gallech fod yn euog o dresmasu sifil.

Gallwn ond rhoi caniatâd i ffilmio gyda dronau dros ardaloedd sy’n eiddo i ni.

Mae Gweithredwyr Dronau a Pheilotiaid o Bell hefyd yn gyfrifol am ddefnyddio gofod awyr yn gywir.

Cofrestru drôn

Mae’n rhaid i chi gofrestru cyn hedfan y rhan fwyaf o ddronau neu awyrennau model yn yr awyr agored yn y DU.

Darganfod mwy am y gofynion a sut i gofrestru eich drôn (gwefan allanol)

Gwneud cais i ffilmio gyda drôn ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor

Pan fyddwch yn gwneud cais am ganiatâd i ffilmio gyda drôn ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor, bydd angen i chi ddarparu:

  • Copi o’ch Trwydded CAA
  • Copi o’ch yswiriant atebolrwydd cyhoeddus (isafswm lefel o £5 miliwn)
  • Copi o’ch cynllun hedfan yn cynnwys y pwyntiau cychwyn a glanio
  • Copi o’ch asesiad risg 

Rhoi gwybod i'r Heddlu

Efallai bydd angen i chi roi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru am ffilmio yn Sir Ddinbych.  

Darganfod mwy am roi gwybod i’r Heddlu am ffilmio (gwefan allanol)

Gofyn am ganiatâd

Fel arfer, gofynnwn am o leiaf pymtheg diwrnod gwaith o rybudd cyn ffilmio ar dir y Cyngor. Byddai angen o leiaf wyth wythnos o rybudd i neilltuo mynediad i chi’n benodol. Gyda phob cais, mae’n ddefnyddiol os gallwn gael mwy o rybudd na’r hyn sy’n ofynnol.

Atebwch y cwestiynau canlynol i ddarganfod sut i ofyn am ganiatâd i ffilmio ar dir sy’n eiddo i’r Cyngor. 


  • Ydych chi’n bwriadu ffilmio ar gyfer y newyddion?