Mae gofyn i’r Cyngor osod cyllideb flynyddol, sy’n cynnwys ystyried swm yr incwm a’r cyllid y gall ei godi, y gwasanaethau mae’n rhaid eu darparu a phwysau ariannol fel chwyddiant.
Mynd yn syth i:
Ni yw un o’r cyflogwyr mwyaf yn Sir Ddinbych, rydym yn darparu gwasanaethau hanfodol i’r gymuned a chefnogi 95,000 o breswylwyr.

Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys gofal cymdeithasol i bobl hŷn a phobl ddiamddiffyn, cynnal a chadw ein ffyrdd, parciau ac isadeiledd arall, gwasanaethau cynllunio a rheoli adeiladu, gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu, gwasanaethau iechyd yr amgylchedd, darparu ysgolion a llyfrgelloedd yn ogystal â llawer o wasanaethau lleol eraill.
Mae rhai o'n gwasanaethau (fel gofal cymdeithasol ac iechyd yr amgylchedd) yn statudol ac wedi'u nodi mewn deddfwriaeth a chaiff gwasanaethau eraill eu darparu yn ôl disgresiwn.
Mae'r gyllideb y nodi faint o arian gallwn ei wario ar gyflawni ein hamcanion ym mhob gwasanaeth.
Mae dwy elfen i'n cyllideb:
- Cyllideb refeniw sy'n cynnwys gwario ar redeg gwasanaethau o ddydd i ddydd, er enghraifft cyflogau, contractau am wasanaethau a chostau rhedeg adeiladau.
- Cynllun cyfalaf sy'n cynnwys gwario ar eitemau a gaiff eu defnyddio gan Gyngor Sir Ddinbych am fwy na blwyddyn: er enghraifft tir, adeiladau, cerbydau a chyfrifiaduron.

Caiff ein cyllideb refeniw ei hariannu gan:
- Grant cynnal refeniw (Llywodraeth Cymru): 61%
- Ailddosbarthu Ardrethi Annomestig: 13%
- Treth y Cyngor: 26%
Mae'r Cyngor yn cael grantiau penodol, ac incwm arall o ffioedd a thaliadau sy’n cyfrannu at gost darparu gwasanaethau’r Cyngor.

Darganfyddwch fwy am sut mae’r Cyngor yn cael ei ariannu.
Fel pob sefydliad mawr yn y sector cyhoeddus, ein nod yw rheoli ein hadnoddau’n ofalus a gwneud mwy gyda llai o arian.
Mae’r Cyngor wedi cadw sefyllfa ariannol gynaliadwy hyd yma, ond bydd angen i ni barhau i ddarparu arbedion er mwyn bodloni pwysau a ragwelir ar y gyllideb.
Mae nifer o ffactorau i’w hystyried wrth osod ein cyllideb, fel:
- Pwysau’r gyllideb a’r effaith bosibl ar wasanaethau.
- Effaith costau cynyddol a’r arian rydym ni’n ei gael, ar fforddio darparu gwasanaethau.
- Parhau i nodi’r dull gorau o ganfod arbedion gan gynnwys canolbwyntio ar gadw costau i lawr.
- Parhau i ofyn am syniadau newydd am ffyrdd cost-effeithiol o ddarparu gwasanaethau, a gwrando arnynt.
- Effaith bosibl chwyddiant a chynnydd o ran biliau ynni.
- Yr effaith bosibl ar ein preswylwyr a’n cymunedau.
Caiff ein cyllidebau blynyddol eu gosod erbyn mis Mawrth ar gyfer dechrau’r flwyddyn ariannol ym mis Ebrill. Mae proses gosod a monitro cyllidebau’n sicrhau bod modd i ni ddefnyddio ein hadnoddau ar gyfer y diben a fwriedir.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig
Mae ein Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn galluogi’r Cyngor i ystyried ei gyllid fwy na blwyddyn o flaen llaw. Mae hyn yn galluogi’r Cyngor i gynllunio'n iawn ar gyfer pwysau o ran costau, arbedion, chwyddiant, newidiadau i wasanaethau a buddsoddiad mewn blaenoriaethau.
Mae’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn nodi dull strategol y Cyngor o reoli ei gyllid a chaiff ei gefnogi gan Gynllun Ariannol Tymor Canolig, sy’n canolbwyntio mewn mwy o fanylder ar sefyllfa’r gyllideb a ragwelir a’r cyfrifiadau ariannol ategol sy’n ei chefnogi.
Llyfrau'r Gyllideb
Mae llyfrau’r gyllideb yn darparu gwybodaeth am gyllidebau’r Cyngor a rhaglenni cyfalaf gan gynnwys faint mae’r Cyngor yn bwriadu ei wario ar wasanaethau (fel addysg, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau amgylcheddol, cynllunio a thai).
Maen nhw’n darparu manylion am faint sy’n cael ei wario ar wella neu ddisodli asedau fel adeiladau, ffyrdd, cerbydau ac offer a ddefnyddir gan wasanaethau (cyfalaf) dros y blynyddoedd nesaf.
Darganfyddwch fwy am Lyfrau’r Gyllideb.
Gosod ein cyllideb
Ni allwn gadarnhau ein cynlluniau cyllideb blynyddol nes byddwn ni’n gwybod:
- Faint mae angen i ni ei wario ar ddarparu ein gwasanaethau
- Pwysau gwario ychwanegol ar ein gwasanaethau a chynnydd o ran prisiau
- Arbedion mae modd i ni eu cyflawni
- Faint o gyllid fyddwn ni’n ei gael gan Lywodraeth Cymru
Pan fyddwn ni’n gwybod beth yw’r symiau uchod, gallwn gyfrifo swm Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo’r gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.
Mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn ar 30 Ionawr 2024, cefnogodd Aelodau gynigion y gyllideb, a oedd yn cynnwys codi Treth y Cyngor 9.34%. Cafodd lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2024/25 ei chymeradwyo yng nghyfarfod y Cyngor llawn ar 27 Chwefror 2024.