Pa gyfleusterau a chefnogaeth sydd ar gael i gynghorwyr?
Mae staff o adran Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor ar gael i ateb unrhyw gwestiynau am gyfarfodydd y Cyngor a swyddogaethau’r pwyllgorau amrywiol wrth wneud penderfyniadau.
Cyfrifiadur / TG / darpariaeth gyfathrebu
Y dyddiau hyn, caiff gwaith y Cyngor ei wneud yn electronig lle bo hynny’n bosibl. O ganlyniad, mae defnyddio Technoleg Gwybodaeth (TG) yn rhan allweddol o waith y cynghorydd o ddydd i ddydd wrth ddelio â busnes y Cyngor. Byddwn yn darparu cyfarpar cyfrifiadurol, ffôn symudol a chyfeiriad e-bost Cyngor, i’w defnyddio wrth ymgymryd â gwaith y Cyngor. Cynigir hyfforddiant ar bob agwedd o ran TG (gan gynnwys sesiynau hyfforddiant un-i-un), i bob cynghorydd, ar sut i ddefnyddio’r cyfarpar a ddarperir. Yn ychwanegol, mae’r Ddesg Gymorth TGCh ar gael bob amser i unrhyw gynghorydd sydd angen cefnogaeth dechnegol.
Cyfarfodydd
Caiff cyfarfodydd cyhoeddus Cyngor Sir Ddinbych a’r prif bwyllgorau, gan gynnwys y Cabinet, y Pwyllgorau Craffu a’r Pwyllgor Cynllunio fel arfer eu gweddarlledu’n fyw (gwefan allanol) ar wefan y Cyngor. Gall unrhyw un sy’n siarad yn y cyfarfodydd hyn wneud hynny naill ai yn Gymraeg neu’n Saesneg. Er budd y di-Gymraeg, mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael i gyfieithu unrhyw anerchiadau a gyflwynir yn Gymraeg. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn yr ystafell gyfarfod ei hun ac ar gyfer y rhai sy’n ymuno o bell neu’n gwylio’r cyfarfod trwy gyfrwng gweddarllediad.
Cynhelir cyfarfodydd mewn gwahanol ffyrdd: wyneb yn wyneb, o bell trwy gyfrwng cynhadledd fideo neu gyfuniad o’r ddau ddull (cyfarfodydd hybrid).
Cofnodir presenoldeb cynghorwyr ym mhob cyfarfod, p'un a yw’r cyfarfod yn cael ei gynnal yn bersonol neu o bell, a chaiff ei nodi ar wefan y Cyngor fel cofnod cyhoeddus. Bydd y wefan hefyd yn cynnwys enwau’r holl gynghorwyr sir, eu manylion cyswllt, a llun ohonynt.
Darpariaeth ar gyfer cynghorwyr anabl
Mae adeiladau’r Cyngor yn addas ar gyfer pobl anabl, gyda gofodau parcio ar gyfer pobl anabl wedi’u lleoli ger y mynedfeydd. Mae lifftiau ar gael ym mhrif adeiladau’r Cyngor i gael mynediad at ystafelloedd cyfarfod ac mae darpariaethau argyfwng ar waith os oes angen gwacáu adeilad.
Cyflog a lwfansau
Mae gan bob cynghorydd yr hawl i dderbyn cyflog blynyddol sylfaenol am eu gwaith. Caiff y cyflog ei dalu’n uniongyrchol gan Wasanaethau Clirio Awtomataidd y Banciau (BACS) ar y 28ain o bob mis. Mae cynghorwyr sydd â chyfrifoldebau ychwanegol, megis Aelodau o’r Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgorau yn derbyn cyflogau uwch. Caiff treuliau rhesymol, gan gynnwys treuliau teithio i fynychu cyfarfodydd, hefyd eu talu.
Gall cynghorwyr hefyd hawlio ad-daliad o gostau gofal i ddarparu gofal ar gyfer dibynyddion pan maent yn ymgymryd â dyletswyddau sy’n ymwneud â’r Cyngor. Gallent hefyd fod â hawl i dâl mamolaeth. Caiff costau gofal eu had-dalu i gynghorwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu am blant, oedolyn dibynnol neu ofynion gofal personol. Ceir mwy o wybodaeth am daliadau sydd ar gael i aelodau etholedig ar wefan Llywodraeth Cymru ar y dudalen taliadau i Aelodau Etholedig (gwefan allanol).
Mae cynnig hefyd i gynghorwyr i ymuno a chyfrannu at y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol(gwefan allanol).